Langrigg

Oddi ar Wicipedia
Langrigg
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBromfield
Daearyddiaeth
SirCumbria
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau54.8°N 3.3015°W Edit this on Wikidata
Cod OSNY163458 Edit this on Wikidata
Cod postCA7 Edit this on Wikidata
Map

Pentrefan yn Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Langrigg.[1] Mae'n gorwedd i'r gogledd-ddwyrain o Aspatria ac i'r de o Abbeytown, ychydig i'r de-orllewin o bentref Bromfield. Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Bromfield yn awdurdod unedol Cumberland.

Yn hanesyddol, roedd yn rhan o drefgordd Langrigg a Mealrigg,[2] ym Mhlwyf Bromfield, oedd, ar y pryd, yn blwyf annibynnol rhwng 1894 a 1934.[3][4][5]

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae Langrigg yn sefyll ar ffordd yr A596.[6] Mae'n gymharol isel, ar eithaf yr hyn a ddisgrifiwyd ar ddiwedd y 18g fel "comin digysur, llwm", er bod y tir o'i gwmpas yn ffrwythlon. Mae'n bosib bod yr enw yn dod o'r Scandinafaidd langr (hir) + hyrrgr (crib) o'r crib o dir sydd wedi'i leoli i'r dwyrain o Bromfield. [7] Gan fod y pentref yn yr Hen Ogledd a bod ei henw wedi ei gofnodi ym 1189 fel Langrug, mae'n bosib ei fod yn rhannu tarddiad enw a'r Llannau Cymreig (cf Llanrug). Mae afon, a elwir yn Ranny Gill, yn llifo ar ochr ddwyreiniol y pentref. Mae'r drefgordd yn cwmpasu ardal o 865 ha ac mae'n cynnwys rhan o Bromfield Common.[8] Mae ffrwd a adwaenir yn lleol fel Dub Stangs yn codi i'r gorllewin o Langrigg, ac mae'n llifo i mewn i'r Solway Firth yn Allonby Bay.

Hanes[golygu | golygu cod]

Rhoddodd Waldieve, Arglwydd Allerdale, faenor Langrigg i Dolphin, mab Aylward, a bu ei ddisgynyddion yn ei dal am genedlaethau cyn iddo fynd i deulu a chymerodd eu henw ar ôl y dreflan. [9] Bu Thomas de Langrigg yn dal eiddo yn Langrigg yn ystod teyrnasiad Harri II, Neuadd Langrigg oedd y prif faenordy. [2][7] ceir dogfen yn dweud bod Agnes, gwraig Gilbert de Langrigg, fod "wedi mynu gan John Crookdake 25 erw o dir, 15 erw o ddôl, a thir rhent gwerth 2s 4d yno, ac yn erbyn Thomas de Langrigg 30 erw o dir, a 14 erw o ddôl". [10] Mae'r drefgordd hanesyddol yn cynnwys Bromfield, Greenhow a Crookdale. Deilwyd Crookdale am flynyddoedd gan y teulu Musgrave. [9][10]

Yn ddiweddarach daeth Langrigg yn eiddo i deuluoedd Porter a Osmunderly; roedd y teulu Osmunderly yn hannu o Swydd Gaerhirfryn. [10] Roedd y teulu Porter yn dal y faenor, tra fo'r teulu Osmunderly yn dal y demên. Roedd yn eiddo i William Osmunderly, Siryf Cumberland, yn ystod teyrnasiad Harri IV. [2] Gwerthodd y olaf o'r teulu Osmunderley, y Parchedig Salkend Osmunderely, y faenor i'w fab-yng-nghyfraith Thomas Barwis ym 1735 (credir bod Barwis yn gyfrifol am adfer Neuadd Langrigg).[8] Roedd John Barwis (1775-1818), a oedd hefyd yn rheithor Niton ar Ynys Wyth, yn un o'i berchnogion amlwg,[11] ac roedd ei fab William Barwis, [12] yn parhau i ddal meddiant Langrigg ym 1860. [2] Ym 1876, daeth Joseph Bowerbank o Cockermouth yn berchenog y drefgordd.[8]].

Roedd gan drefgordd Langrigg boblogaeth o 198 ym 1801, 194 ym 1821, 269 ym 1841, a 281 ym 1851. [2]

Daeth trefgordd unedig Langrigg a Mealrigg ym Mhlwyf Bromfield yn blwyf annibynnol yn dilyn Deddf Llywodraeth Leol 1894, er ei fod yn parhau i fod ynghlwm wrth Bromfield at ddibenion eglwysig. [4] Mae Fferm Neuadd Langrigg Hall yn cynhyrchu wyau i archfarchnad Morrisons [13].

Economi[golygu | golygu cod]

Melin Langrigg

Bu cynhyrchu teils yn ddiwydiant lleol ers y 19 ganrif.[14] Sefydlwyd melin wynt yno hefyd yn y 19 ganrif.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 3 Mawrth 2020
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Whellan 1860, t. 216.
  3. Burke's Genealogical and Heraldic History of the Landed Gentry. H. Colburn. 1847. t. 63.
  4. 4.0 4.1 Bulmer 1901, t. 159.
  5. "Bromfield Tn/AP/CP through time". Vision of Britain Organization. Cyrchwyd 25 October 2013.
  6. Highways. 69. D.R. Publications Limited. 2000. t. 10.
  7. 7.0 7.1 Hutchinson 1794, tt. 299–301.
  8. 8.0 8.1 8.2 8.3 "Langrigg and Mealrigg". Cumbria County History Organization. Cyrchwyd 16 October 2013.
  9. 9.0 9.1 Lysons 1816, t. 48.
  10. 10.0 10.1 10.2 Nicolson, Burn & Nicolson 1777, t. 164.
  11. The Gentleman's Magazine. F. Jeffries. 1840. t. 226.
  12. Burke & Burke 1847, t. 63.
  13. "Langrigg Hall Farm, Cumbria". Morrisons.co.uk. Cyrchwyd 15 October 2013.
  14. "Langrigg And Mealrigg". Vision of Britain Organization. Cyrchwyd 16 October 2013.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]