Lawnslot

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Lancelot)
Syr Lawnslot.

Un o farchogion y brenin Arthur yn y chwedlau Ffrengig a Seisnig amdano yw Lawnslot neu Lancelot. Yn y rhain, gelwir ef yn aml yn Lancelot du Lac, ac fel rheol ef yw'r pennaf o farchogion y Ford Gron. Nid yw'n ymddangos yn y chwedlau Cymreig cynnar am Arthur.

Daeth Lawnslot yn adnabyddus trwy waith Chrétien de Troyes, Lancelot ou le Chevalier de la charrette, a ysgrifennwyd rhwng 1177 a 1181. Ffynhonnell bwysig arall oedd y Lawnslot-Greal, gwaith Ffrangeg o ddechrau'r 13g.

Dywedir ei fod yn dod o Lydaw ac yn fab i'r brenin Ban o Benioic, sydd a chastell ger llyn yng nghanol Fforest Broseliawnd. Mae Hector de Maris yn hanner brawd iddo, a'r brenin Bors yn ewythr. Lawnslot yw tad Galahad, un arall o farchogion Arthur.

Yn y fersiynau diweddarach o chwedlau Arthur, cymer Lawnslot ran yn yr ymchwil am y Greal Santaidd, ond gan nad yw'n ddigon pur, dim ond cip ar y Greal a gaiff. Mae Lawnslot yn cynnal carwriaeth a'r frenhines Gwenhwyfar, ac mae hyn yn y pen draw yn arwain at Frwydr Camlan a dinistr y deyrnas.

Credai R. S. Loomis fod cymeriad Lawnslot wedi datblygu o gymeriad Lloch Llawwynnyawc neu Llenlleawg sy'n ymddangos yn chwedl Culhwch ac Olwen ac mewn rhai cerddi cynnar, Pa Gwr yw y porthor a Preiddeu Annwfn, a chredai fod cysylltiad rhyngddo a Lleu Llaw Gyffes a'r duwiau Celtaidd Lugh neu Lugus, ond nid yw'r mwyafrif o ysgolheigion yn derbyn hyn.

Yn y ffilm King Arthur (2004), mae Ioan Gruffudd yn chwarae rhan Lawnslot.