Kwame Nkrumah
Kwame Nkrumah | |
---|---|
Ganwyd | 21 Medi 1909 Nkroful |
Bu farw | 27 Ebrill 1972 o canser y croen, canser y brostad Bwcarést |
Dinasyddiaeth | Gold Coast Colony, Ghana |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, llenor, diplomydd, darlithydd |
Swydd | Arlywydd Ghana, cadeirydd y Sefydliad Undod Affricanaidd, Prif Weinidog Ghana, Minister for Foreign Affairs, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Member of the Parliament of Ghana, Minister for the Interior of Ghana, Member of the 1st Parliament of the Gold Coast, Member of the 2nd Parliament of the Gold Coast, Member of the 1st Parliament of the 1st Republic of Ghana, Minister for Defence, Arlywydd Gini |
Adnabyddus am | Africa Must Unite |
Plaid Wleidyddol | Convention People's Party, United Gold Coast Convention |
Plant | Gamal Nkrumah, Samia Nkrumah, Sekou Nkrumah |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Lennin, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Gwobr Cymdeithion O. R. Tambo, Coler Urdd y Llew Gwyn, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta |
Arlywydd cyntaf Ghana oedd Kwame Nkrumah (21 Medi 1909 – 27 Ebrill 1972). Ystyrir ef yn un o'r ffigyrau pwysicaf yn natblygiad Cenedlaetholdeb Affricanaidd.
Ganed ef, fel Francis Nwia Kofi Ngonloma, yn Nkroful, yn yr hyn oedd bryd hynny yn drefedigaeth Brydeinig y Gold Coast. Graddiodd o Ysgol Achimota yn Accra yn 1930, a bu'n dysgu mewn ysgol Gatholig yn Axim. Yn 1935 teithiodd i'r Unol Daleithiau i astudio, gan raddio ym Mhrifysgol Lincoln, Pennsylvania. Bu'n bregethwr cynorthwyol mewn eglwysi duon yno, a chyfarfu a'r Marcsydd o Trinidad, C.L.R. James, a gafodd gryn ddylanwad arno. Bu wedyn yn Llundain am gyfnod.
Yn 1947 gwahoddwyd ef i wasanaethu fel ysgrifennydd i gomisiwn dan Joseph B. Danquah oedd yn edrych i mewn i'r posibilrwydd o annibyniaeth y Gold Coast. Dychwelodd i'r wlad yn Rhagfyr y flwyddyn honno. Yn 1948 carcharwyd ef gan yr awdurdodau Prydeinig. Wedi ei ryddhau, bu'n bodio ei ffordd o amgylch y wlad yn ymgyrchu dros hunanlywodraeth. Carcharwyd ef eto yn 1950, am dair blynedd y tro hwn. Dan bwysau rhyngwladol, cytunodd Prydain i gynnal etholiad yn Chwefror 1951, ac enillodd plaid Nkrumah, oedd yn dal yng ngharchar, fuddugoliaeth ysgubol. Rhyddhawyd ef, a gofynnwyd iddo ffurfio llywodraeth. Flwyddyn yn ddiweddarach, enwyd ef yn Brif Weinidog. Ar 6 Mawrth, 1957, cyhoeddodd Nkrumah fod Ghana yn wlad annibynnol. Yn 1960 daeth Ghana yn weriniaeth, a Nkrumah yn Arlywydd. Daeth Nkrumah yn amlwg fel hyrwyddwr Pan-Affricaniaeth a'r Mudiad Heb Aliniad.
Y mis Chwefror 1966, pan oedd Nkrumah ar ymweliad a Fietnam, cipiwyd grym gan y fyddin, gyda chefnogaeth y CIA. Bu'n byw mewn alltudiaeth yn Conakry, Gini, lle gwnaeth yr arlywydd Ahmed Sékou Touré ef yn gyd-arlywydd er anrhydedd. Bu farw o gancr y croen yn Ebrill 1972. Dychwelwyd ei gorff i Ghana a'i gladdu yn Nkroful. Yn ddiweddarach, trosglwyddwyd ei weddillion i Accra.
Gweithiau Kwame Nkrumah
[golygu | golygu cod]- Ghana: The Autobiography of Kwame Nkrumah (1957)
- Africa Must Unite (1963)
- African Personality (1963)
- Neo-Colonialism: the Last Stage of Imperialism (1965)
- Axioms of Kwame Nkrumah (1967)
- African Socialism Revisited (1967)
- Voice From Conakry (1967)
- Handbook for Revolutionary Warfare (1968)
- Consciencism: Philosophy and Ideology for De-Colonisation (1970)
- Class Struggle in Africa (1970)
- The Struggle Continues (1973)
- I Speak of Freedom (1973)
- Revolutionary Path (1973)
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- David Birmingham, Kwame Nkrumah: The Father of African Nationalism (Athens: Ohio University Press, 1998)