Mudiad Heb Aliniad
Mudiad Heb Aliniad |
||||
|---|---|---|---|---|
|
||||
Aelod-wladwriaethau
Aelod-arsylwi
|
||||
| Swyddfa gydlynu | Pencadlys y Cenhedloedd Unedig Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd[1] | |||
| Aelodaeth[2] |
|
|||
| Arweinwyr | ||||
| - | Prif gorff gwneud penderfyniadau |
Cynhadledd Penaethiaid Gwladwriaeth neu Lywodraeth Gwledydd Heb eu Cyd-fynd[3] | ||
| - | Cadeiryddiaeth | |||
| - | Cadeirydd[4] | Yoweri Museveni, Arlywydd Uganda | ||
| Sefydliad | Belgrade, Iwgoslafia 1 Medi 1961 fel y Cynhadledd Penaethiaid Gwladwriaeth neu Lywodraeth Gwledydd Heb Aliniad | |||
| Gwefan https://nam.go.ug/ |
||||
Mae'r Mudiad Heb Aliniad (Saesneg: Non-Aligned Movement (NAM)) yn grŵp rhyngwladol o wladwriaethau nad ydynt yn ystyried eu hunain yn ochri'n ffurfiol gydag unrhyw floc grym (e.e. y Cenhedloedd Unedig), nac yn erbyn unrhyw floc grym. Erbyn 2024 roedd yn cynnwys 120 o aelodau llawn ac 20 arall a oedd yn 'arsylwi'. Fe'i sefydlwyd gyda'r bwriad o hyrwyddo buddiannau gwledydd sy'n datblygu yng nghyd-destun gwrthdaro yn y Rhyfel Oer. Ar ôl y Cenhedloedd Unedig, dyma'r grŵp mwyaf o wladwriaethau ledled y byd.
Ym mhlith yr aelodau mae Belarws, Wsbecistan, ac holl aelodau Grŵp y 77, ac eithrio'r rhai sydd'n arsyllwyr yn y Mudiad yn ogystal â gwledydd Oceania (ar wahân i Papua Gini Newydd a Fanwatw, sydd yn aelodau).
Sefydlwyd y sefydliad yn Beograd ym 1961 gan ymdrechion Josip Broz Tito, Arlywydd Iwgoslafia, Jawaharlal Nehru, Prif Weinidog India, Gamal Abdel Nasser, Arlywydd yr Aifft, Kwame Nkrumah, Arlywydd Ghana, a Sukarno, Arlywydd Indonesia. Eu bwriad oedd i hyrwyddo trydydd ddewis i wladwriaethau'r Trydydd Byd ar wahân i flociau'r Dwyrain a'r Gorllewin yn y Rhyfel Oer.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Coordinating Bureau of the Non-Aligned Countries | UIA Yearbook Profile | Union of International Associations". uia.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 July 2020. Cyrchwyd 18 July 2020.
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwNAM members - ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enworganizational - ↑ "18th Summit of Heads of State and Government of Non-Aligned Movement gets underway in Baku". www.chinadaily.com.cn. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 December 2019. Cyrchwyd 26 December 2019.
