Kung Fu Panda
Poster y ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | John Wayne Stevenson Mark Osborne |
Cynhyrchydd | Melissa Cobb |
Ysgrifennwr | Jonathan Aibel Glenn Berger Stori: Ethan Reiff Cyrus Voris |
Serennu | Jack Black Dustin Hoffman Angelina Jolie Ian McShane Jackie Chan Seth Rogen Lucy Liu David Cross Randall Duk Kim James Hong Dan Fogler Michael Clarke Duncan |
Cerddoriaeth | Hans Zimmer John Powell |
Sinematograffeg | Yong Duk Jhun |
Golygydd | Clare de Chenu |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | DreamWorks Animation Pacific Data Images |
Dosbarthydd | Paramount Pictures |
Dyddiad rhyddhau | Gogledd America: 6 Mehefin, 2008 Awstralia: 26 Mehefin, 2008: Y Deyrnas Unedig: 4 Gorffennaf, 2008 |
Amser rhedeg | 91 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Iaith | Saesneg |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm gomedi anemeiddiedig Americanaidd yw Kung Fu Panda (2008). Cafodd ei chyfarwyddo gan John Wayne Stevenson a Mark Osborne a'i chynhyrchu gan Melissa Cobb. Cynhyrchwyd y ffilm yn Stiwdios Animeddio DreamWorks yn Glendale, Califfornia a'i dosbarthu gan Paramount Pictures. Rhyddhawyd y ffilm mewn sinemau ar 6 Mehefin 2008. Mae'r ffilm yn serennu lleisiau Jack Black fel y panda, Po, ynghyd â lleisiau Dustin Hoffman, Jackie Chan, Angelina Jolie, Ian McShane, Seth Rogen, Lucy Liu, David Cross, Randall Duk Kim, James Hong, Dan Fogler, ac Michael Clarke Duncan. Lleolir y ffilm yn hen Cheina a dilyna'r ffilm hynt a helynt panda lletchwith sy'n breuddwydio am fod yn feistr kung fu. Pan mae ymladdwr brawychus yn dianc o'r carchar, daw Po yn Frwydrwr y Ddraig. Mae Dreamworks yn gweithio ar ffilm ddilynol i Kung Fu Panda sydd ar hyn o bryd yn y cyfnod ôl-gynhyrchu.
Er fod y syniad o "kung fu panda" wedi bodoli ers 1993 o leiaf, ni ddechreuwyd gweithio ar y prosiect tan 2004. Un o gyfarwyddwyr DreamWorks Animation, Michael Lachance, gafodd y syniad am y ffilm. Yn wreiddiol, bwriadwyd creu ffilm barodi ond penderfynodd y cyfarwyddwr Stevenson i greu ffilm a oedd yn efelychu ffilmiau cyffro Hong Kong, sydd yn plethu siwrnai'r prif gymeriad. Roedd yr animeiddio cyfrifiadurol yn fwy cymhleth nag unrhyw beth roedd DreamWorks wedi gwneud yn flaenorol. Fel yn achos nifer o ffilmiau animeiddiedig DreamWorks, ysgrifennwyd y sgôr gan Hans Zimmer (a gyd-weithiodd gyda John Powell). Ymwelodd â Cheina er mwyn ymgyfarwyddo â'r diwylliant ac i gwrdd â Cherddorfa Cenedlaethol Cheina.