Kristallnacht
| Enghraifft o: | Pogrom |
|---|---|
| Dyddiad | Tachwedd 1938 |
| Lladdwyd | 91 |
| Lleoliad | yr Almaen Natsïaidd |
| Yn cynnwys | book burning |
| Gwladwriaeth | Ymerodraeth yr Almaen |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0lcbg |
| Quora | Kristallnacht |
Pogrom gwrth-Iddewig oedd Kristallnacht (hefyd Reichspogromnacht) a ddigwyddodd ar 9 Tachwedd 1938 dan arweiniad y Natsïaid yn yr Almaen. Lladdwyd Iddewon, llosgwyd eu synagogau, ac ysbeiliwyd a dinistriwyd eu siopau. Ataliodd y llywodraeth Natsïaidd ryddhau'r heddlu a diffoddwyr tân i dewi'r cyrch treisiol torfol. Daeth y noson yn adnabyddus yn jargon Natsïaidd fel "noson grisial" (hynny yw, i ddynodi gwydr ffenestri siopau a thai Iddewon oedd wedi torri). Gelwir hefyd yn Novemberpogrome.[1] yn nodi dechrau'r Holocost, a hawliodd fywydau chwe miliwn o Iddewon yn Ewrop erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Cefndir
[golygu | golygu cod]
Cynhaliwyd Kristallnacht, ar y 9 a'r 10 Tachwedd 1938, ledled tiroedd y Drydedd Reich, gan ddinistrio symbolau Iddewig. Goresgynnwyd synagogau, busnesau a phreswylfeydd Iddewig a dinistriwyd eu heiddo. Cafodd miloedd eu harteithio, eu lladd neu eu halltudio i wersylloedd crynhoi. Y cyfiawnhad a ddefnyddiwyd gan y Natsïaid oedd llofruddiaeth Ernst vom Rath, diplomydd Almaenig ar y pryd ym Mharis, gan Herschel Grynszpan, Iddew o dras Pwyleg 17 oed oedd yn byw ym Mharis, ddeuddydd ynghynt. Roedd Grynszpan yn ymateb i benderfyniad y Natsïaid i alltudio ei deulu a miloedd o Iddewon eraill, o'r Almaen.[2]
Proses arweiniodd at Kristallnacht
[golygu | golygu cod]Gweithredwyd Kristallnacht gan aelodau'r cyhoedd a grwpiau para-filwrol Natsiaidd a hynny ar draws tiroedd newydd y Drydedd Reich a oedd erbyn Tachwedd 1938 yn cynnwys Awstria a'r Sudetenland yn yr hyn oedd Tsiecoslofacia nes y flwyddyn honno.[3]
Roedd erledigaeth y Natsïaid o’r gymuned Iddewig Almaenig eisoes wedi dechrau ym mis Ebrill 1933, gyda’r alwad ar ddinasyddion i foicotio sefydliadau sy’n eiddo i Iddewon. Yn ddiweddarach, cawsant eu gwahardd rhag mynychu sefydliadau cyhoeddus, gan gynnwys ysbytai.

Yn hydref 1935, cyrhaeddodd erledigaeth Iddewon, a adnabyddir fel "gelynion yr Almaenwyr", uchafbwynt arall gyda'r hyn a elwir yn "Deddfwriaeth Hil Nuremberg". Er nad oedd yn ymddangos bod gweddill y byd yn cymryd yr hil-laddiad o ddifrif, gwelodd Hitler ei bolisi o lanhau ethnig yn cael ei gadarnhau.
Roedd cyfraith 15 Tachwedd 1935 wedi gwahardd priodasau ac yn condemnio cysylltiadau all-briodasol rhwng Iddewon a rhai nad ydynt yn Iddewon. Roedd yna hefyd waharddiad ar bobl nad oeddent yn Iddewon rhag gwneud gwaith tŷ i deuluoedd Iddewig ac ar Iddew yn chwifio baner y Natsïaid.
Ym 1938, cafodd plant Iddewig eu diarddel o ysgolion a phenderfynwyd diarddel yr holl siopau, diwydiannau a sefydliadau masnachol oedd yn eiddo i Iddewon. Ar 1 Ionawr 1939, roedd yr enw Israel ar gyfer dynion a Sarah ar gyfer merched yn orfodol i ddogfennau Iddewig.
Eiddigedd a thrachwant Natsiaid
[golygu | golygu cod]Cred rhai haneswyr bod y llywodraeth Natsïaidd wedi bod yn ystyried achos arfaethedig o drais yn erbyn yr Iddewon a'u bod yn aros am esgus priodol; mae tystiolaeth o'r cynllunio hwn yn dyddio'n ôl i 1937.[4] Mewn cyfweliad ym 1997, honnodd yr hanesydd Almaenig, Hans Mommsen, mai un o gymhellion mawr y pogrom oedd awydd Gauleiters yr NSDAP i atafaelu eiddo a busnesau Iddewig.[5]
Canlyniad
[golygu | golygu cod]Dros gyfnod o 48 awr distrywiwyd 267 synagog a thros 7,000 o siopau Iddewig gyda'r awdurdodau Almaenig yn arsyllu ond heb stopio'r distrywio.[6][7] Lladdwyd dros 90 Iddew yn ôl amcangyfrif o'r cyfnod, ond mae dadansoddiad modern o ffynonellau ysgolheigaidd Almaeneg yn rhoi'r ffigwr yn llawer uwch; pan fydd marwolaethau o gamdriniaeth ar ôl arestio a hunanladdiadau dilynol yn cael eu cynnwys, mae'r doll marwolaeth yn cyrraedd y cannoedd, gyda Richard J. Evans yn amcangyfrif 638 o farwolaethau trwy hunanladdiad.[8] Dalfadwyd dros 30,000 o ddynion Iddewig dan orchmynion i gipio cymaint o ddynion ifainc Iddewig ag y gellid eu dal yn y carchardai. Fe'i halltudiwyd wedyn ymlaen i wersylloedd crynhoi.
Mae'r arfer o'r awdurdodau grym neu lywodraeth yn arsyllu ond gwrthod stopio trais yn nodweddiadol o bogromau fel gwelwyd yn Ymerodraeth Rwsia ar ddiwedd 19g a dechrau'r 20g a gweithrediadau'r Cannoedd Duon a chyrchoedd treisiol gwrth-Iddewig eraill.
Yn fuan wedi dioddef y pogromau, beiwyd yr Iddewon am greu'r trais ac fe'u dirwywyd 1 biliwn Reichsmark (oddeutu $400 miliwn yn arian 2019). Ar ben hynny, atalfaelodd y Llywodraeth holl ad-daliadau yswiriant ar gyfer eiddo a ddifrodwyd gan y trais.
Erbyn heddiw, ystyrir Kristallnacht fel man cychwyn yr Holocost.[9][10]
Roedd maint creulondeb pogrom 9 Tachwedd yn annisgrifiadwy. Roedd Hermann Göring yn galaru am "golledion materol mawr" 9 Tachwedd 1938, gan ychwanegu: "Byddai'n well gennyf pe baent wedi llofruddio 200 o Iddewon yn lle dinistrio cymaint o bethau gwerthfawr!"
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Kristallnacht: Remembering The 'Night Of Broken Glass' gan Radio Free Europe/Radio Liberty
- atgofion dioddefwyr Holocaust survivors recount their memories of Kristallnacht Yad Vashem
- "Kristallnacht: The November 1938 Pogroms". Online exhibitions, special topics. US Holocaust Memorial Museum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Mai 2008. Cyrchwyd 2008-05-20.
- Yad Vashem (2004). "Kristallnacht". Yad Vashem's Photo Archives. The Holocaust Martyrs' and Heroes' Remembrance Authority. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mawrth 2005. Cyrchwyd 2008-05-21.
- Pogroms Gwefan yr Holocaust Encyclopaedia
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Berenbaum, Michael (20 Rhagfyr 2018). "Kristallnacht". Encyclopædia Britannica. Encyclopædia Britannica, inc. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2019.
Kristallnacht, (German: “Crystal Night”), also called Night of Broken Glass or November Pogroms
- ↑ "Kristallnacht: Remembering The 'Night Of Broken Glass'". Radio Free Europe/Radio Liberty. 23 Ebrill 2019.
- ↑ "Kristallnacht". www.ushmm.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mai 2018. Cyrchwyd 19 Mai 2018.
- ↑ Friedländer, Saul. Nazi Germany and The Jews, volume 1: The Years of Persecution 1933–1939 (Llundain: Phoenix, 1997), p. 270
- ↑ Mommsen, Hans (12 Rhagfyr 1997). "Interview with Hans Mommsen" (PDF). Yad Vashem. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 1 Chwefror 2013. Cyrchwyd 6 Chwefror 2010.
- ↑ Michael Berenbaum ac Arnold Kramer, (2005). The World Must Know. [nited States Holocaust Memorial Museum. p. 49.
- ↑ Gilbert 2006, tt. 30–33
- ↑ "KRISTALLNACHT: DAMAGES AND DEATH". Holocaust Denial On Trial. Emory University. 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Ionawr 2020. Cyrchwyd 9 Medi 2019.
- ↑ Multiple (1998). "Kristallnacht". The Hutchinson Encyclopedia. Hutchinson Encyclopedias (arg. 18th). London: Helicon. t. 1,199. ISBN 1-85833-951-0.
- ↑ "Kristallnacht: Remembering The 'Night Of Broken Glass'". Radio Free Europe/Radio Liberty. 23 Ebrill 2019.