Kay Ryan

Oddi ar Wicipedia
Kay Ryan
Ganwyd21 Medi 1945 Edit this on Wikidata
San Jose, Califfornia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, athro Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Cymrodoriaeth MacArthur, Gwobr Pulitzer am Farddoniaeth, Medal y Dyniaethau Cenedlaethol Edit this on Wikidata

Bardd Americanaidd yw Kay Ryan (ganwyd 21 Medi 1945) sydd wedi cyhoeddi saith cyfrol o farddoniaeth a blodeugerdd o gerddi dethol a newydd. Rhwng 2008 a 2010 hi oedd un-deg-chweched Bardd Llawryfog yr Unol Daleithiau.[1] Yn 2011 fe'i henwyd yn Gymrawd MacArthur ac enillodd yn Enillydd Gobr Pulitzer.[2]

Magwraeth a choleg[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn San Jose, Califfornia ar 21 Medi 1945 a symudodd y teulu ambell dro yn yr ardal rhwng San Joaquin Valley a Diffeithwch y Mojave. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Califfornia, Los Angeles a Choleg Antelope Valley gan lwyddo i gael gradd Meistr mewn Saesneg yn 1968.[3][4][5][6][7] [8][9]

Ers 1971, mae hi wedi byw yn Marin County, California, ac wedi dysgu Saesneg yn rhan-amser yng Ngholeg Marin yn Kentfield. Carol Adair, a oedd hefyd yn hyfforddwr yng Ngholeg Marin, oedd partner Ryan o 1978 hyd nes marwolaeth Adair yn 2009.[10][11][12]

Cyhoeddi[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf, Dragon Acts to Dragon Ends, yn breifat yn 1983 gyda chymorth ffrindiau. Er iddi ddod o hyd i gyhoeddwr masnachol ar gyfer ei hail gasgliad, Strangely Marked Metal (1985), ni roddwyd fawr o sylw i'w gwaith tan ganol y 1990au, pan gafodd rhai o'i cherddi eu trafod a chyhoeddwyd yr adolygiadau cyntaf mewn cylchgronau cenedlaethol.[13] Cafodd ei chydnabod yn eang ar ôl derbyn Gwobr Barddoniaeth Ruth Lilly yn 2004, a chyhoeddodd ei chweched casgliad o farddoniaeth, The Niagara River, yn 2005.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • 1983: Dragon Acts to Dragon Ends, 64 o dudalennau, Fairfax, California: Taylor Street Press, ISBN 0-911407-00-6
  • 1985: Strangely Marked Metal, 50 o dudalennau, Providence, Rhode Island: Copper Beech Press, ISBN 0-914278-46-0
  • 1994: Flamingo Watching, 63 o dudalennau, Providence, Rhode Island: Copper Beech Press, ISBN 0-914278-64-9
  • 1996: Elephant Rocks, 84 o dudalennau, New York: Grove Press, ISBN 0-8021-1586-1
  • 2000: Say Uncle, New York: Grove Press, 80 o dudalennau, ISBN 0-8021-3717-2
  • 2005: The Niagara River, 72 o dudalennau, New York: Grove Press, ISBN 0-8021-4222-2
  • 2008: Jam Jar Lifeboat & Other Novelties Exposed, dyluniwyd gan Carl Dern. 40 o dudalennau, Red Berry Editions, ISBN 978-0-9815781-1-8
  • 2010: The Best of It: New and Selected Poems, 270 o dudalennau, Grove Press, ISBN 978-0-8021-1914-8
  • 2015: Erratic Facts, 128 o dudalennau, New York: Grove Press, ISBN 978-0-8021-2405-0

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (2004), Cymrodoriaeth MacArthur, Gwobr Pulitzer am Farddoniaeth (2011), Medal y Dyniaethau Cenedlaethol (2012)[14][15][16] .

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raymond, Matt; Urschel, Donna (17 Gorffennaf 2008). "Librarian of Congress Appoints Kay Ryan Poet Laureate". The Library of Congress. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Gorffennaf 2008. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "MacArthur Fellows Program: Meet the 2011 Fellows". John D. and Catherine T. MacArthur Foundation. 20 Medi 2011. Cyrchwyd 2011-09-20.
  3. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb165826688. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb165826688. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Dyddiad geni: "Kay Ryan". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. Kay Ryan (26 Gorffennaf 2006). "Kay Ryan Discusses New Collection of Poems". Newshour with Jim Lehrer (Interview: Video/Transcript). PBS. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-07-18. Cyrchwyd 2008-07-18.
  7. Hewitt, Alison (2008-07-17). "Kay Ryan, UCLA graduate in English, named 16th poet laureate of U.S." UCLA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-07. Cyrchwyd 2008-09-12. Ryan received her B.A. in 1967 and her M.A. in 1968.
  8. Galwedigaeth: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 19 Rhagfyr 2022.
  9. Anrhydeddau: https://www.gf.org/fellows/all-fellows/kay-ryan/. dyddiad cyrchiad: 6 Awst 2017. https://www.pulitzer.org/prize-winners-by-category/224. https://www.neh.gov/about/awards/national-humanities-medals. dyddiad cyrchiad: 6 Awst 2017.
  10. Cohen, Patricia (17 Gorffennaf 2008). "Kay Ryan, Outsider With Sly Style, Named Poet Laureate". The New York Times. Cyrchwyd 2008-07-18.
  11. Halstead, Richard (23 Medi 2007). "Kay Ryan rises to the top despite her refusal to compromise". Marin Independent Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Gorffennaf 2008. Cyrchwyd 2008-07-18. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  12. Ashley, Beth (7 Ionawr 2009). "Carol Adair, College of Marin instructor, dies at 66". Marin Independent Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-26. Cyrchwyd 2019-06-27.
  13. Gioia, Dana (1998–99). "Review: Discovering Kay Ryan". The Dark Horse (7). Archifwyd o y gwreiddiol ar 18 Gorffennaf 2008. https://www.webcitation.org/5ZOxN14Jb?url=http://www.danagioia.net/essays/eryan.htm. Adalwyd 2008-07-18.
  14. https://www.gf.org/fellows/all-fellows/kay-ryan/. dyddiad cyrchiad: 6 Awst 2017.
  15. https://www.pulitzer.org/prize-winners-by-category/224.
  16. https://www.neh.gov/about/awards/national-humanities-medals. dyddiad cyrchiad: 6 Awst 2017.