Karim Benzema
Benzema yn chwarae dros ffrainc yn Euro 2012. | |||
| Gwybodaeth Bersonol | |||
|---|---|---|---|
| Enw llawn | Karim Mostafa Benzema[1] | ||
| Dyddiad geni | 19 Rhagfyr 1987 | ||
| Man geni | Lyon, Ffrainc | ||
| Taldra | 1.85 m (6 tr 1 mod)[2] | ||
| Safle | Ymosodwr | ||
| Y Clwb | |||
| Clwb presennol | Al-Hilal | ||
| Rhif | 90 | ||
| Gyrfa Ieuenctid | |||
| 1996–2005 | Lyon | ||
| Gyrfa Lawn* | |||
| Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
| 2004–2006 | Lyon B | 20 | (15) |
| 2004–2009 | Lyon | 112 | (43) |
| 2009–2023 | Real Madrid | 439 | (238) |
| 2023–2026 | Al-Ittihad | 64 | (38) |
| 2026– | Al-Hilal | 10 | (9) |
| Tîm Cenedlaethol | |||
| 2004 | Ffrainc dan 17 | 4 | (1) |
| 2004–2005 | Ffrainc dan 18 | 17 | (14) |
| 2005–2006 | Ffrainc dan 19 | 9 | (5) |
| 2006–2007 | Ffrainc dan 21 | 5 | (0) |
| 2007–2022 | Ffrainc | 97 | (37) |
| * Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 18 Mehefin 2026 (UTC). † Ymddangosiadau (Goliau). | |||
Pêl-droediwr o Ffrainc ydy Karim Benzema (ganwyd Karim Mostafa Benzema 19 Rhagfyr 1987) sy'n chwarae i Al-Hilal yn Uwch Gynghrair Sawdi Arabia. Bu'n chwarae i dîm pêl-droed cenedlaethol Ffrainc rhwng 2007 a 2022, ac enillodd y Bêl Aur yn 2022.[3] Ef oedd y chwaraewr cyntaf o Ffrainc i gipio'r wobr ers Zinedine Zidane yn 1998.
Ymunodd Benzema â chlwb Olympique Lyonnais pan yn naw mlwydd oed a daeth trwy'r system academi ieuenctid cyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb yn ystod tymor 2004–05. Llwyddodd i ennill pencampwriaeth Ligue 1 am bedwar tymor yn olynol gyda Lyon, gyda'r bencampwriaeth olaf yn seithfed pencampwriaeth o'r bron i'r clwb ac yn dymor welodd Benzema yn cael ei ddewis fel Chwaraewr y Flwyddyn Ligue 1.
Yng Ngorffennaf 2009, symudodd i Real Madrid am ffi o €35m[4] ac roedd yn aelod o'r tîm enillodd La Liga yn 2011-12 a Chynghrair y Pencampwyr yn 2013-14. Enillodd 25 teitl gyda'r clwb.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Ffrainc ar 28 Mawrth 2007 fel eilydd ail hanner yn erbyn Awstria a rhwydodd unig gôl y gêm.[5]
Ym mis Hydref 2021, yn achos Karim Benzema yn achos sextape Mathieu Valbuena, gofynnodd swyddfa erlynydd Versailles i’r llys troseddol ynganu dedfryd o garchar wedi’i ohirio am ddeng mis a dirwy o 75,000 ewro yn erbyn Karim. Benzema.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "UEFA Champions League 2008/2009" (PDF). uefa.com. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-21. Cyrchwyd 2014-06-19.
- ↑ "Real Madrid C.F. – Karim Benzema". Real Madrid. Cyrchwyd 14 Mawrth 2012.
- ↑ "Karim Benzema yn ennill y Ballon d'Or". newyddion.s4c.cymru. 18 Hydref 2022. Cyrchwyd 18 Mehefin 2026.
- ↑ "Benzema agrees six-year deal at Real Madrid". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2014-06-19.
- ↑ Vignal, Patrick (2007-03-28). "Debutant Benzema gives France win over Austria". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-18. Cyrchwyd 2014-06-19.