Joy Harjo

Oddi ar Wicipedia
Joy Harjo
Ganwyd9 Mai 1951 Edit this on Wikidata
Tulsa, Oklahoma Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Mecsico Newydd
  • Prifysgol Iowa
  • Sefydliad Celfyddydau Indiaidd America Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, cerddor, ysgrifennwr, awdur plant, sgriptiwr, athro, ymgyrchydd hinsawdd Edit this on Wikidata
SwyddBardd Llawryfog yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAn American sunrise : poems Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadLeslie Marmon Silko, Flannery O'Connor, Simon J. Ortiz Edit this on Wikidata
PerthnasauLois Harjo Ball Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr lenyddiaeth PEN Oakland/Josephine Miles, Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobrau Llyfrau Americanaidd, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.joyharjo.com/ Edit this on Wikidata

Awdur plant Americanaidd yw Joy Harjo (ganwyd 9 Mai 1951) sydd hefyd cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, cerddor, sgriptiwr ac athro. Hi hefyd yw 'Bardd Llawryfog yr Americanwr Brodorol' cyntaf.

Fe'i ganed yn Tulsa, Oklahoma gyda'r enw a roddir Joy Foster, a chymerodd gyfenw ei mam-gu (ar ochr ei thad, Allen W. Foster), sef "Harjo", pan ymrestrodd yng Nghenedl Muscogee (Creek) yn 19 oed. Mae gan ei mam, Wynema Baker Foster, dras cymysg o Cherokee, Ffrengig a Gwyddelig. Harjo oedd yr hynaf o bedwar o blant. Mae'n ffigwr pwysig yn ail don Dadeni Llenyddiaeth Americanaidd Brodorol ar ddiwedd yr 20g.[1] Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Indiaidd America (Institute of American Indian Arts), cwblhaodd ei gradd israddedig ym Mhrifysgol New Mexico ym 1976, ac enillodd radd M.F.A. ym Mhrifysgol Iowa yn ei Rhaglen Ysgrifennu Creadigol. [2][3][4]

Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau a chyhoeddiadau eraill, mae Harjo wedi dysgu mewn nifer o brifysgolion yn yr Unol Daleithiau, wedi perfformio mewn darlleniadau barddoniaeth a digwyddiadau cerdd, ac wedi rhyddhau pum albwm o’i cherddoriaeth wreiddiol. Mae ei llyfrau yn cynnwys Conflict Resolution for Holy Beings (2015), Crazy Brave (2012), a How We Became Human: New and Selected Poems 1975-2002 (2004). Derbyniodd Wobr Farddoniaeth Ruth Lilly. Yn 2019, fe’i hetholwyd yn Ganghellor Academi Beirdd America.[5]

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Joy Harjo, Bardd Llawryfog yr Unol Daleithiau, 6 Mehefin 2019.

Ysgarodd rhieni Harjo oherwydd yfed ac ymddygiad llym ei thad. Roedd yn ymosodol yn emosiynol ac yn gorfforol dreisgar pan oedd yn feddw. Roedd ail briodas ei mam â dyn nad oedd yn hoff o Indiaid ac a oedd yr un mor ymosodol. Roedd effaith hyn ar Harjo yn negyddol iawn. Ar un adeg, roedd yn ofni siarad, a achosodd iddi gael anawsterau gydag athrawon yn yr ysgol.[6]

Roedd Harjo wrth ei bodd yn paentio a gwelodd ei bod yn fynegiant gwerthfawr o'i hemosiynau. Yn 16 oed, cafodd ei chicio allan o dŷ ei theulu gan ei llystad. Symudodd i Santa Fe, New Mexico, a chofrestrodd yn Sefydliad Celfyddydau Indiaidd America.

Priododd Harjo â Phil Wilmon, myfyriwr IAIA arall a chawsant fab, Phil Dayn. Ysgarodd Harjo a Wilmon yn ddiweddarach.

Cerddor[golygu | golygu cod]

Fel cerddor, mae Harjo wedi rhyddhau pum CD, ac enillodd pob un ohonynt wobrau. Mae'r rhain yn cynnwys ei cherddoriaeth wreiddiol a cherddoriaeth artistiaid Brodorol Americanaidd eraill.[7] Cantores oedd mam Harjo. Dysgodd Harjo chwarae'r sacsoffon alto a'r ffliwt pan oedd yn 40 oed.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

1970au[golygu | golygu cod]

  • Writers Forum ym Mhrifysgol Colorado, Colorado Springs, Colorado (1977)
  • Outstanding Young Women of America (1978)
  • National Endowment for the Arts Creative Writing Fellowships (1978)

1980au[golygu | golygu cod]

  • 1af am Farddoniaeth yn y Santa Fe Festival of the Arts (1980)
  • Outstanding Young Women of America (1984)
  • New Mexico Music Awards (1987)
  • NEH Summer Stipend yn yr American Indian Literature and Verbal Arts', Prifysgol Arizona (1987)
  • Arizona Commission on the Arts Poetry Fellowship (1989)

1990au[golygu | golygu cod]

  • The American Indian Distinguished Achievement in the Arts Award (1990)
  • Delmore Schwartz Memorial Award, Prifysgol Efrog Newydd: In Mad Love and War (1991)
  • Oakland PEN, Josephine Miles Poetry Award (1991)
  • William Carlos Williams Award gan Gymdeithas Barddoniaeth America (1991)
  • American Book Award gan y Before Columbus Foundation: In Mad Love and War (1991)
  • Doethuriaeth gan Goleg Benedict (1992)
  • Woodrow Wilson Fellowship yng Ngholeg Green Mountain yn Poultney, Vermont (1993)
  • Witter Bynner Poetry Fellowship (1994)
  • Lifetime Achievement Award gan Native Writers Circle of The Americas (1995)[8]
  • Oklahoma Book Award: The Woman Who Fell from the Sky (1995)
  • Bravo Award gan Albuquerque Arts Alliance (1996)
  • Wordcraft Circle of Native Writers and Storytellers Musical Artist of the Year: Poetic Justice (1997)
  • New Mexico Governor's Award for Excellence in the Arts (1997)
  • Lila Wallace-Reader's Digest Fund Writer's Award for work with nonprofit group Atlatl in bringing literary resources to Native American communities (1998)
  • Cyrraedd brig rhestr Oklahoma Book Award: Reinventing the Enemy's Language (1998)
  • National Endowment for the Arts Creative Writing Fellowships (1998)

2000au[golygu | golygu cod]

  • Writer of the Year/children's books gan Wordcraft Circle of Native Writers and Storytellers am The Good Luck Cat (2001)
  • Oklahoma Book Award for Poetry: How We Became Human: New and Selected Poems 1975–2001 (2003)
  • Gwobr Arrell Gibson am Lifetime Achievement from the Oklahoma Center: How We Became Human: New and Selected Poems 1975–2001 (2003)
  • Storyteller of the Year Native Joy for Real gan Wordcraft Circle of Native Writers and Storytellers. (2004)
  • Writer of the Year –am farddoniaeth How We Became Human: New and Selected Poems 1975–2001 (2004)
  • Wordcraft Circle of Native Writers and Storytellers "Writer of the Year" for the script A Thousand Roads (2005)
  • United States Artists Rasmuson Fellows Award (2008)
  • Eagle Spirit Achievement Award (2009)
  • Nammy Native American Music Award (2009)

2010au[golygu | golygu cod]

  • Mvskoke Women's Leadership Award (2011)
  • John Simon Guggenheim Memorial Foundation Fellowship (2014)[9]
  • Gwobr Wallace Stevens am farddoniaeth, gan Academy of American Poets Board of Chancellors (2015)[10]
  • Ruth Lilly Poetry Prize (2017)[11]
  • United States Poet Laureate (2019)

Arall[golygu | golygu cod]

  • Prifysgol New Mexico: Gwobr Academy of American Poets
  • Mountains and Plains Booksellers Award
  • Erthygl nodwedd yn Pushcart Prize Poetry Anthologies XV & XIII

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dyddiad geni: "Joy Harjo". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Joy Harjo". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Joy Harjo". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Joy Harjo". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Joy Harjo". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  2. Galwedigaeth: Union List of Artist Names. dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2019. dyddiad cyrchiad: 22 Mai 2021. Prifysgol Tennessee, Wikidata Q1150105, https://www.utk.edu/
  3. Swydd: https://www.loc.gov/item/n81068743/joy-harjo/. dyddiad cyrchiad: 13 Gorffennaf 2022.
  4. Anrhydeddau: http://www.gf.org/fellows/all-fellows/joy-harjo/. dyddiad cyrchiad: 29 Mai 2017. https://www.womenofthehall.org/2022-inductees/.
  5. Canever, Brian (1 Ionawr 2019). "Professor Named Chancellor of Academy of American Poets". University of Tennessee Knoxville News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-05-10.
  6. Bochynski, Pegge. [go.galegroup.com/ps/i.do?p=GVRL&sw=w&u=puya65247&v=2.1&id=GALE%7CCX1380600021&it=r&asid=052b5d5b479a490c82d2738944601491 "Harjo, Joy 1951–"] Check |url= value (help). Gale Virtual Reference Library.
  7. "About Joy Harjo". Joy Harjo.
  8. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw NWCA
  9. "Joy Harjo – 2014 John Simon Guggenheim Memorial Foundation Fellow". GF.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 17, 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  10. "Wallace Stevens Award". Cyrchwyd 9 Ebrill 2016.
  11. Schilling, Vincent (9 Mai 2017). "Joy Harjo Awarded 2017 Ruth Lilly Poetry Prize and $100,000". Indian Country Today (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-31. Cyrchwyd 2018-10-30.