Journal of Welsh ecclesiastical history
Gwedd
| Enghraifft o: | cyfnodolyn, cylchgrawn |
|---|---|
| Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
| Iaith | Saesneg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1984 |
| Lleoliad cyhoeddi | Tongwynlais |
| Olynydd | Journal of Welsh Religious History |
| Dynodwyr | |
Cylchgrawn Saesneg blynyddol yn cynnwys erthyglau academaidd ac adolygiadau ar lyfrau yn ymwneud â Christionogaeth yng Nghymru oedd Cylchgrawn Hanes Eglwysig Cymru (Saesneg: Journal of Welsh ecclesiastical history). Cyhoeddwyd o 1984 hyd 1992, pan ddaeth yn Gylchgrawn Hanes Crefyddol Cymru (Saesneg: Journal of Welsh Religious History).[1]
Golygwyd a chyhoeddwyd y Journal of Welsh ecclesiastical history gan y Parchedigion John R Guy a Roger L Brown dan yr enw Tair Eglwys Press, Tongwynlais, Caerdydd.
Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido fel rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 01/06/2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-13. Cyrchwyd 2012-01-13.