Neidio i'r cynnwys

Joseff Gnagbo

Oddi ar Wicipedia
Joseff Gnagbo
Llun o gynhadledd gyda 6 o siaradwyr ar y llwyfan
Joseff (ar y chwith) yn siarad yn un o ddigwyddiadau Melin Drafod
Ganwydc. 1974 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Baner Arfordir Ifori Arfordir Ifori

Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ers 2023 yw Joseff Gnagbo (ganed tua 1974) o Gaerdydd.[1] Sillefir ei enw hefyd fel "Joseph".

Daeth Gnagbo i Gymru o'r Traeth Ifori yn 2017 fel ceisiwr lloches, yng nghanol chwyldro milwrol. Dysgodd Gymraeg yn gyflym a daeth yn diwtor Cymraeg. Daeth yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith ym mis Hydref 2023.[1] Ef yw'r person cyntaf na chafodd ei eni yng Nghymru i gadeirio'r Gymdeithas.[2]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Gadawodd yr Arfidir Ifori yn 2011 lle roedd yn newyddiadurwr ac athro ieithoedd. Bu hefyd yn actifydd gwleidyddol ac yn ystod y gwrthdaro a ddechreuodd yn y wlad yn 2002 rhwng cefnogwyr yr Arlywydd, Laurent Gbagbo, a'i wrthwynebydd, Alassane Ouattara. Rhan o'r anghydfod oedd nad oedd Laurent Gbagbo am ildio rheolaeth ariannol y wlad i'r bloc oedd yn gefnogol i fod o dan ymbarél ariannol Ffrainc, y Communauté Financière Africaine. O dan y reolaeth yma mae tua 60% o arian y wlad o dan reolaeth Ffrainc a rhaid i'r Arfordir Ifori dalu llog. Wedi i'r gwrthryfelwyr ennill y rhyfel cartref roedd yn rhaid iddo ffoi yn 2011.[3]

Roedd yn gallu siarad nifer o ieithoedd arall - Ffrangeg, Almaeneg, Rwsieg, Saesneg, Swahili - cyn iddo gyrraedd Cymru, felly nid oedd dysgu Cymraeg yn anodd iddo. Ond mewn cyfweliad gyda phodlediad Radio YesCymru nododd nad oedd yn gallu siarad unrhyw un o ieithoedd brodorol yr Arfordir Ifori gan na ddysgwyd yr un ohonynt iddo gan ei rieni, a bod dylanwad y Ffrangeg mor gryf. Roedd ei dad yn siarad yr iaith Dida.[3] Roedd yn meddwl bod dysgu ieithoedd brodorol yn bwysig.[1] Mewn cyfweliad, dywedodd: "Rwy'n hoff iawn o sain y Gymraeg - ac un o fy hoff eiriau yw 'gwdihŵ'!" Un o'r rhesymau iddo ddysgu Cymraeg oedd oherwydd iddo weld tebygrwydd yn y sefyllfa gyda grym ieithoedd yn ei famwlad.[3]

Mae ganddo ddau o blant sy'n mynd i ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd.[1]

Anrhydeddu

[golygu | golygu cod]

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024 cafodd ei urddo i wisg las Gorsedd y Beirdd.[4]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Sarah Down-Roberts (9 Hydref 2023). "Joseff Gnagbo: 'Pwysig bod y Gymraeg ar gael i bawb'". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 15 Awst 2024.
  2. Liz Clements (10 Hydref 2023). "Ivory Coast asylum seeker becomes top Welsh language activist". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Awst 2024.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Joseff Gnagbo (Cyfweliad yn Gymraeg) i Radio YesCymru gan Siôn T. Jobbins. Cyfres 5, Pennod 27". Sianel Youtube Radio YesCymru. 17 Tachwedd 2023.
  4. Eryl Crump (20 Mai 2024). "The full list of Gorsedd honours for the 2024 National Eisteddfod". Daily Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Awst 2024.
Eginyn erthygl sydd uchod am y Gymraeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.