Radio Yes Cymru
Gwasanaeth radio ar-lein yw Radio Yes Cymru. Bu ei darllediadau cyntaf yn ystod Eisteddfod Caerdydd 2018. Sefydlwyd hi gan aelodau mudiad Yes Cymru er mwyn hybu annibynaieth i Gymru a thrafodaeth ar annibyniaeth a chenedlaetholdeb Gymreig.
Darlledir rhaglenni ar-lein ac nid ar donfeddi radio. Nid yw'n radio fasnachol.
Sefydlwyd Radio Yes Cymru gan Siôn Jobbins ac aelodau a chefnogwyr eraill o fudiad Yes Cymru gan gynnwys Hedd Gwynfor, Bethan Williams (cydlynydd) a Siôn Lewis (bu'n gyfrifol am greu jingls i'r rhaglenni) a Lowri 'Fron' Jones (trefnydd technegol) bu hefyd yn un o gefnogwyr a chriw technegol Radio Beca.
Radio Yes Cymru yn Eisteddfod Caerdydd 2018[golygu | golygu cod y dudalen]
Darlledu[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn ystod Eisteddfod Caerdydd darlledwyd y rhaglenni o swyddfa cwmni Indycube yn Sgwâr Mount Steward oedd o fewn gerddediad 3 munud o Faes yr Eisteddfod [1]. Darlledwy y rhaglenni drwy wefan cymru.fm. Gallwyd gwrando unai ar cymru.fm neu Radio Beca neu ar wefan Yes Cymru.
Darlledwyd y rhaglenni rhwng 5.00 - 7.00pm nosweithiau Mercher, Iau a Gwener, 8-10 Awst. Roedd yn bosib gwrando ar bodlediadau o'r rhaglenni hefyd.
Defnyddiwyd offer darlledu Radio Beca gan fynd drwy system ddarlledu ar-lein, cymru.fm. Darlledwyd y rhaglenni cyntaf yn y Gymraeg, ond nodwyd y bwriad i ddarlledu yn y Saesneg hefyd wedi hynny [2]
Cynnwys[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd cynnwys rhaglenni Eisteddfod Caerdydd yn amrywiaeth o sgyrsiau a cherddoriaeth Gymraeg. Y gwesteion ar gyfer y rhaglenni oedd. Cyflwynwyd y rhaglenni gan Siôn Jobbins:
- Nos Fercher - Huw Marshall, Rhun ap Iorwerth, Huw Williams a Chris Roberts o fudiad 'Labour for Independent Wales, Begotxu Olaizola o Wlad y Basg yn trafod annibyniaeth Catalwnia; Adam Price; Mabon ap Gwynfor.
- Nos Iau - Simon Brooks, Rhys Chivers, Heledd Gwyndaf, Wil Jac Rees, Catrin Dafydd, Gwion Hallam.
- Nos Wener - Eurfyl ap Gwilym, Sophie Anne, Gareth Bonello, Llwyd Owen, Tomos Davies.
Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]
- Tudalen Radio Yes Cymru ar wefan Yes Cymru[dolen marw]
- Tudalen Facebook Radio Yes Cymru
- Cyfrif Twitter Radio Yes Cymru