Jordi Sànchez i Picanyol

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Jordi Sànchez)
Jump to navigation Jump to search
Jordi Sànchez i Picanyol
Jordi Sánchez (cropped).jpg
Ganwyd Jordi Sànchez Picanyol Edit this on Wikidata
1 Hydref 1964 Edit this on Wikidata
Barcelona Edit this on Wikidata
Man preswyl Barcelona Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Sbaen Edit this on Wikidata
Addysg licentiate Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Ymreolaethol Barcelona
  • Prifysgol Barcelona Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Athro, gweithredydd gwleidyddol, gwyddonydd gwleidyddol, Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Arlywydd Assemblea Nacional Catalana, Aelod o Senedd Catalwnia, cyfarwyddwr, Cadeirydd, Aelod o Gyngres Dirprwyon Sbaen Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Fundació Jaume Bofill
  • Prifysgol Agored Catalwnia
  • Prifysgol Barcelona
  • Prifysgol Ymreolaethol Barcelona Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Junts per Catalunya-Junts Edit this on Wikidata
Partner Susanna Barreda Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr 31 Rhagfyr Edit this on Wikidata
Gwefan https://jordisanchezpicanyol.cat/ Edit this on Wikidata

Mae Jordi Sànchez i Picanyol, (ganwyd 1 Hydref,1964) yn academydd a gwleidydd o Gatalwnia

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn enedigol o Barcelona, graddiodd gyda gradd mewn Gwyddor Gwleidyddiaeth o brifysgol y ddinas ym 1991.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Sànchez yn Athro ym Mhrifysgol Barcelona ac mae o wedi dysgu mewn prifysgolion eraill. Rhwng 1996 a 2004 bu'n gyfarwyddwr Cwmni Radio a Theledu Catalwnia. Ym 1996 cafodd ei apwyntio yn ddirprwy gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Jaume Bonfill, melin drafod (think tank) sy'n ymchwilio i achosion o annhegwch cymdeithasol a'r moddion i'w trechu, yn 2001 daeth yn gyfarwyddwr yr ymddiriedolaeth gan gadw'r swydd hyd 2010 pan gafodd ei benodi'n ddirprwy ombwdsman Catalwnia[1]. Bu'n gyfrifol am ysgrifennu papurau cefndir i bolisïau cymdeithasol Catalwnia megis y Cytundeb Cenedlaethol ar Addysg (2006) a'r Cytundeb Cenedlaethol ar Fewnfudo (2008).

Ymgyrchydd gwleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

O 1983 hyd ddiddymu'r mudiad ym 1993 bu'n un o arweinyddion Crida a la Solidaritat ên Defensa de la Llengua, la Cultura i la Nació Catalanes (Galwad am Undod i Amddiffyn Iaith, Diwylliant a Chenedl Catalwnia), mudiad eithaf tebyg i Gymdeithas yr Iaith, oedd yn defnyddio anufudd-dod sifil i gefnogi iaith, diwylliant a chenedlgarwch Catalaneg.

Ar 16 Mai 2015 etholwyd Sànchez yn llywydd Assemblea Nacional Catalana (Cyngres Genedlaethol Catalwnia)[2] . Fel llywydd y Gyngres bu'n dadlau achos cenedlaetholdeb fel modd i greu cymdeithas decach a mwy cymdeithasol na'r hyn oedd ar gynnig gan lywodraeth asgell dde Sbaen. Bu'n rhan o'r ymgyrch Junts pel Sí (Unedig dros Ie) i gael ymgeiswyr o wahanol bleidiau cenedlaetholgar i gyd sefyll yn etholiadau Llywodraeth Catalwnia, 2015.

Carcharu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 4 Hydref, 2017, cyhuddwyd Sànchez a Jordi Cuixart i Navarro (llywydd Òmnium Cultural) am eu rhan yn trefnu refferendwm Annibyniaeth Catalwnia, 1 Hydref 2017 ae gyhuddiad o greu cynnwrf yn erbyn y wladwriaeth. Ar 16 Hydref, 2017 cafodd y ddau eu carcharu am gyfnod ataliol er mwyn i'r awdurdodau allu chwilio am brawf o'u troseddau honedig. Arweiniodd eu carchariad at brotestiadau enfawr yng Nghatalwnia[3] a chafodd eu carchariad ei feirniadu gan Amnest Rhyngwladol am fod yn rhy llawdrwm[4].


Ar 1 Rhagfyr 2018 cyhoeddodd Sànchez a Jordi Turull eu bod am ddechrau streic newyn mewn protest at y bloc ar gyfiawnder Ewropeaidd a osodwyd arnynt gan Lys Cyfansoddiadol Sbaen. [5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]