Jordi Borràs i Abelló
Jordi Borràs i Abelló | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1981 ![]() Vila de Gràcia ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, darlunydd, ffotonewyddiadurwr ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Desmuntant Societat Civil Catalana, Warcelona, una història de violència, Plus ultra. Una crònica gràfica de l'espanyolisme a Catalunya, Days that will last for years, La cara B del procés ![]() |
Prif ddylanwad | Xavier Vinader ![]() |
Perthnasau | Xavier Borràs ![]() |
Gwobr/au | 2N Awards, Q116240115 ![]() |
Gwefan | http://jborras.cat ![]() |
Newyddiadurwr a dyluniwr Catalan yw Jordi Borràs i Abelló.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Derbyniodd radd uwch mewn dylunio ym Mhrifydgol Massana, Barcelona, lle arbenigodd hefyd mewn ffotograffeg. Gweithiodd ym maes problemau cymdeithasol, er mwyn eu dod a nhw i'r golwg, yn gyhoeddus. Bu'n flaenllaw gyda chyfryngau fel Nació Digital, La Directa ac El Temps gan gyhoeddi nifer o adroddiadau ymchwiliol.
Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ei liwt ei hun i bapurau a gwefannau fel El Crític, El Món yn ogystal â'r cylchgrawn Basgeg Argia, gan gyhoeddi nifer o adroddiadau am ymgyrchoedd y 'dde caled' yng Nghatalwnia.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Warcelona, una història de violència (Polen Edicions, 2013)
- Plus Ultra. A graphic chronicle of Spanishism in Catalonia (Polen Edicions, 2015)
- Desmuntant Societat Civil Catalana (Saldonar , 2015).[2]
- Dies que duraran anys (Ara Llibres, 2018): cyfrol o ffotograffau y dynnodd ar ddiwrnod Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017.
Bygythiadau ac ymosodiad
[golygu | golygu cod]Yn dilyn rhai o'r adroddiadau hyn, derbyniodd sawl bygythiad gan grwpiau Ffasgwyr yn 2013 ac ymchwiliodd yr heddlu i'r bygythiadau hyn.[3][4]
Yng Ngorffennaf 2018 ymosodwyd arno yng nghanol tref Barcelona, liw dydd, gan aelod o'r Heddlu a waeddodd arno “viva Franco” a “viva España”.[3]
Gwobr
[golygu | golygu cod]Yn 2016 Derbyniodd 'Wobr Urddas' gan La Fundació Comissió de la Dignitat lliura el Premi Dignitat.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Catalan photojournalist Jordi Borràs beaten by Spanish policeman". Ara.cat (yn Catalaneg). Cyrchwyd 2018-07-22.
- ↑ "Anti-Catalan violence no longer restricted to the extreme right". Catalan News Monitor (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-22. Cyrchwyd 2018-07-22.
- ↑ 3.0 3.1 "Spain: Photojournalist Jordi Borrás attacked in Barcelona". European Federation of Journalists (yn Saesneg). 2018-07-18. Cyrchwyd 2018-07-22.
- ↑ "How the Catalan crisis helps Spain's far right". www.aljazeera.com. Cyrchwyd 2018-07-22.