John Wojtowicz
John Wojtowicz | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mawrth 1945 Dinas Efrog Newydd |
Bu farw | 2 Ionawr 2006 o canser Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | lleidr banc |
Priod | Elizabeth Eden |
Lleidr banc o Americanwr oedd John Stanley Wojtowicz (9 Mawrth 1945 – 2 Ionawr 2006) oedd yn ysbrydoliaeth i'r ffilm Dog Day Afternoon.[1]
Bywyd cynnar a phersonol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Wojtowicz yn Ninas Efrog Newydd ym 1945 yn fab i fewnfudwyr Pwylaidd. Priododd Carmen Bifulco, ym 1967, a chawsant ddau blentyn cyn eu hysgariad ym 1969. Ym 1971 cyfarfu Wojtowicz â Ernest Aron mewn gŵyl Eidalaidd yn Ninas Efrog Newydd, a phriododd y ddau ar 4 Rhagfyr 1971 yn Greenwich Village.[2]
Lladrad banc
[golygu | golygu cod]Ar 22 Awst 1972, ceisiodd Wojtowicz, Salvatore Naturile, a Robert Westenberg ysbeilio cangen o fanc Chase Manhattan ar gornel East Third Street ac Avenue P yn Gravesend, Brooklyn. Y bwriad oedd defnyddio'r arian a ladratwyd i dalu am lawdriniaeth ailgyfeirio rhyw ar gyfer Ernest Aron.[2] Cadwodd Wojtowicz a Naturile saith o weithwyr y banc yn wystlon am 14 o oriau. Gwnaeth Westernberg ffoi o'r man cyn i'r ysbeiliad ddechrau pan welodd car heddlu ar y stryd. Roedd gan Wojtowicz ryw wybodaeth o sut mae banciau yn gweithio, gan roedd yn gyn-glerc banc. Mae'n debyg y wnaeth seilio ei gynllun ar olygfeydd o'r ffilm The Godfather, a welodd yn gynharach y diwrnod hwnnw, ac aeth Al Pacino, seren The Godfather, ymlaen i bortreadu Wojtowicz yn Dog Day Afternoon. Arestiwyd Wojtowicz, ond cafodd Naturile ei ladd gan yr FBI yn ystod eiliadau olaf y digwyddiad.[3]
Ar ôl y lladrad
[golygu | golygu cod]Yn ôl Wojtowicz, cafodd gynnig bargen i bledio'n euog, ond fe'i amharchwyd gan y llys, ac ar 23 Ebrill 1973 cafodd ei ddedfrydu i 20 mlynedd ym Mhenydfa Ffederal Lewisburg, a dreuliodd 10 mlynedd yno. Enillodd $7,500 trwy werthu'r hawliau ffilm i'w hanes a 1% o'i elw net, a defnyddiodd yr arian i gyllido llawdriniaeth ailgyfeirio rhyw Ernest Aron, a newidiodd ei henw i Elizabeth Eden. Rhyddhawyd Wojtowicz o'r carchar ar 10 Ebrill 1987. Bu farw Elizabeth Eden o niwmonia o ganlyniad i AIDS ar 29 Medi 1987 yn Rochester pan oedd yn 41 mlwydd oed.[4] Bu farw Wojtowicz o ganser ar 2 Ionawr 2006.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) John Wojtowicz in the Notable Names Database. Soylent Communications.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Ernest Aron Became Elizabeth Eden - AIDS Kills Woman Behind 'Dog Day'. Los Angeles Times (30 Medi 1987).
- ↑ (22 Medi 1972) The Boys in the Bank, Life, Cyfrol 73, Rhifyn 12 (yn Saesneg), tud. 66–74
- ↑ (Saesneg) Elizabeth Eden, Transsexual Who Figured in 1975 Movie. New York Times (1 Hydref 1987).
- ↑ Katz, Celeste (23 Ebrill 2006). 'Dog Day's' journey into legend: Robber, lover gone, but the flick is back. New York Daily News, t. 30.