John Wimburn Laurie
John Wimburn Laurie | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1 Hydref 1835 ![]() |
Bu farw | 19 Mai 1912 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plant | George Brenton Laurie ![]() |
Roedd John Wimburn Laurie (1 Hydref 1835 – 19 Mai 1912) yn filwr Prydeinig ac yn wleidydd a wasanaethodd fel Aelod yn Senedd Canada a Senedd y Deyrnas Unedig.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Laurie yn Llundain ym 1835 yn fab i John Laurie ac Eliza Helen (née Collett). Gwasanaethodd John fel Aelod Seneddol Ceidwadol Barnstaple ym 1854.[1]
Cafodd ei addysgu yn ysgol fonedd Harrow ac Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst.
Priododd Frances Robie Collins (merch Enos Collins) ym 1863 a chawsant wyth o blant.
Gyrfa filwrol
[golygu | golygu cod]Ymunodd Laurie a'r Fyddin Brydeinig ym 1853 fel llumanwr yn 2il bataliwn y Queen's Royal Regiment of Foot. Cafodd ei benodi'n Is-gapten ac wedyn yn Gapten ym 4ydd bataliwn The King's Own Regiment of Foot, gan ymladd yn Rhyfel y Crimea ym 1855 a gwasanaethu yn yr India o 1858. Ym 1861 aeth i Ganada fel Uwch-gapten ar wasanaeth arbennig, bu'n gwasanaethu yng Nghanada fel Swyddog Maes Arolygol y Milisia yn Nova Scotia ac wedyn fel Dirprwy Adjutant Cyffredinol y Milisia yn Nova Scotia hyd 1881. Bu'n gwasanaethu yn ystod cyrchoedd y Ffeniaid rhwng 1866 a 1870. Ym 1881 gwasanaethodd yn Ne Affrica cyn dychwelyd i Ganada gan arwain lluoedd Prydain yn erbyn y brodorion yn ystod Gwrthryfel y Gogledd Orllewin ym 1885. Ymddeolodd o'r fyddin ym 1887 gyda'r radd Is-gadfridog.[2]
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Cynrychiolodd Laurie etholaeth Shelbourne, Nova Scotia, fel Ceidwadwr yn Nhŷ Cyffredin Canada o 1887 tan 1891.[3] Dychwelodd i Wledydd Prydain ym 1892 a safodd fel ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Penfro a Hwlffordd yn etholiad cyffredinol 1892. Enillwyd y sedd gan yr ymgeisydd Rhyddfrydol Charles Francis Egerton Allen; safodd eto yn yr un etholaeth yn etholiad 1895 gan lwyddo cipio'r sedd gyda mwyafrif o 169 pleidlais. Llwyddodd i gadw'r sedd yn etholiad cyffredinol 1900 gyda mwyafrif o ddim ond 2 bleidlais (ar ôl ail gyfri ar orchymyn barnwrol cynyddwyd y mwyafrif i 15). Penderfynodd beidio ag amddiffyn y sedd yn etholiad 1906.
Wedi ymadael a gwleidyddiaeth Seneddol gwasanaethai fel gwleidydd lleol gan gael ei ethol yn Henadur ar Gyngor Fwrdeistref Paddington yn Llundain a gan wasanaethu fel Maer y Fwrdeistref ym 1907.
Bywyd cyhoeddus amgen
[golygu | golygu cod]Roedd Laurie yn aelod amlwg o'r Seiri Rhyddion gan wasanaethu fel Uchel Feistr yr urdd yn Nova Scotia ac fel Uchel Feistr Taleithiol Deheudir Cymru.[4]
Yn ystod ei gyfnod yn Nova Scotia, bu'n gwasanaethu fel llywydd y Bwrdd Amaethyddol Canolog ac fel Cadeirydd adran masnach Canada o Siambr Fasnach Llundain. Sefydlodd cymuned Oakfiel yn Nova Scotia, lle mae Parc Laurie wedi enwi er cof amdano.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Exeter and Plymouth Gazette 24 Mai 1912 tudalen 5
- ↑ http://www.archeion.ca/john-wimburn-laurie-fonds adalwyd 28 Ion 2015
- ↑ LAURIE, John Wimburne; PARLIAMENT of CANADA [1] Archifwyd 2015-01-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 28 onawr 2015
- ↑ Obituaries Yorkshire Post and Leeds Intelligencer 22 Mai 1912
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Charles Francis Egerton Allen |
Aelod Seneddol Penfro a Hwlffordd 1895 – 1906 |
Olynydd: Owen Cosby Philipps |