John William Jones (Andronicus)
Gwedd
John William Jones | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mehefin 1842 y Bala |
Bu farw | 15 Mehefin 1895 |
Man preswyl | Manceinion |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | awdur, pedlar |
Llenor Cymraeg oedd John William Jones (30 Mehefin 1842 – 15 Mehefin 1895) a gyhoeddai dan ei enw barddol Andronicus. Fe'i cofir yn bennaf am ei gyfres o ysgrifau hunangofiannol.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Brodor o blwyf Y Bala ym Meirionnydd (Gwynedd) oedd Andronicus, lle y'i ganed yn 1842. Fel nifer o Gymry eraill o ardaloedd cefn gwlad gogledd Cymru yn y cyfnod hwnnw, symudodd i ddinas Manceinion, Lloegr, i ennill ei fywoliaeth. Daeth yn fasnachwr yno tan 1884.[1]
Mae'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru yn disgrifio ei gyfrol o ysgrifau Adgofion Andronicus fel "ymhlith y mwyaf difyr o'u bath" yn y Gymraeg.[1] Cafodd ei chyhoeddi yn 1894, blwyddyn cyn ei farw yn 1895.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Adgofion Andronicus (1894)[2]
- Yn y Trên (1895)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
- ↑ Jones (Andronicus), John Williams (1894). . Caernarfon: WELSH NATIONAL PRESS COMPANY (LTD .).