John Roberts (cerddor)
John Roberts | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1806 ![]() y Bala ![]() |
Bu farw | 18 Tachwedd 1879 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | cerddor ![]() |
Cerddor oedd John Roberts (1806 – 18 Tachwedd 1879).
Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganwyd Roberts yn y Bala. Yn fachgen, roedd yn gwneud gwaith llafur ar y ffermydd o gwmpas ei gartref. Yn ddyn ifanc, symudodd i Aberystwyth a dysgodd y grefft o gerfio.
Cerddoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Aeth ymlaen i astudio cerddoriaeth ac roedd yn rhan fawr o fywyd cerddorol y dref a'r ardal lleol. Cyfansoddodd y diwn 'Alexander' pan oedd yn 18 oed ac ym 1853 roedd y diwn ym mysg cant o donau yn Perorydd y Cysegr. Dan olygiaeth yr organydd o Aberystwyth, J. Wilks, cyhoeddodd Serff Cymru oedd yn cynnwys anthemau a chorganau.[1]
Blynyddoedd olaf[golygu | golygu cod y dudalen]
Am flynyddoedd, bu'n arwain y canu yng nghapel Bedyddwyr Penpound wedi iddo symud i Aberdar ym 1855. Ym 1873, dychwelodd i Aberystwyth a bu farw yno ar 18 Tachwedd 1879. Yng nghladdfa Aberystwyth mae ei fedd.
Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]
- M. O. Jones, Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig (1890);
- Y Cerddor, Mehefin 1893 a Mehefin 1918;
- Cymru (O.M.E.), 1899.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "ROBERTS, JOHN (1806 - 1879), cerddor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-16.