John Poyer
John Poyer | |
---|---|
Ganwyd | c. 1605 Covent Garden |
Bu farw | 25 Ebrill 1649 o shooting Penfro |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | maer |
Maer Penfro a ffigwr amlwg yn Ail Ryfel Cartref Lloegr oedd John Poyer (bu farw 25 Ebrill 1649).
Roedd Poyer yn farsiandwr blaenllaw yn nhref Penfro. Pan ddechruodd Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr, cymerodd blaid y Senedd, a bu'n gyfrifol am ddal tref a chastell Penfro dros y Senedd gyda Rowland Laugharne a Rice Powell.
Ar ddiwedd y rhyfel yma yn 1647 gyrrodd y senedd gyrnol o'r enw Fleming i gymeryd y castell trosodd oddi wrth Poyer, ond gwrthododd ef ei ildio iddo. Roedd y milwyr heb gael y tâl oedd yn ddyleds iddynt, ac roedd llawr o ddrwgdeimlad. Gyda Laugharne a Powell, arweiniodd Poyer wrthryfel yn erbyn y Senedd o blaid y brenin. Fodd bynnag gorchfygwyd y Brenhinwyr ym Mrwydr San Ffagan ar 8 Mai 1648, ac ildiodd Penfro i'r fyddin Seneddol ar 11 Gorffennaf. Condemniwyd Poyer, Laugharne a Powell i farwolaeth, ond penderfynwyd mai dim ond un ohonynt oedd i gael ei ddienyddio. Bwriwyd coelbren, a Poyer a ddewiswyd. Saethwyd ef yn Covent Garden, Llundain.