John Neumann
| John Neumann | |
|---|---|
| Ganwyd | 28 Mawrth 1811 Prachatice |
| Bu farw | 5 Ionawr 1860 Philadelphia, Unol Daleithiau America |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
| Swydd | Roman Catholic Bishop of Philadelphia |
| Dydd gŵyl | 5 Ionawr, 5 Ionawr |
| llofnod | |
Sant Catholig sy'n cael ei ddisgrifio weithiau fel y sant Americanaidd cyntaf oedd John Neumann (28 Mawrth 1811 - 5 Ionawr 1860).
Cafodd Neumann ei eni yn Prachatice yn Bohemia (Gweriniaeth Tsiec heddiw) yn 1811. Astudiodd yn České Budějovice ac aeth ymlaen i Brifysgol Prag lle graddiodd mewn Diwinyddiaeth.
Roedd wedi dysgu Saesneg trwy siarad â gweithwyr Americanaidd mewn ffatri ym Mhrag. Trefnodd i fynd i'r Unol Daleithiau i weinyddu'r Efengyl, er nad oedd ganddo fawr o arian at y daith, a daeth yn esgob Catholig Philadelphia yn 1852. Sefydlodd y system addysg Gatholig gyntaf yn America a chynyddodd y nifer o ddisgyblion o 500 i 9,000 dan ei arweinyddiaeth.
Ar 5 Ionawr 1860 bu farw'n sydyn wrth gerdded strydoedd Philadelphia. Cafodd ei ganoneiddio gan y Pab Pawl VI ym Mehefin 1977.