John Kenneth Galbraith
John Kenneth Galbraith | |
---|---|
Ganwyd | 15 Hydref 1908 Iona Station |
Bu farw | 29 Ebrill 2006 Cambridge |
Dinasyddiaeth | Canada, Unol Daleithiau America |
Addysg | doctor honoris causa |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | economegydd, diplomydd, gwleidydd, academydd, awdur ffeithiol, llenor, llysgennad |
Swydd | United States Ambassador to India |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | History of Economics: The Past as the Present |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Mudiad | institutional economics, Keynesian economics |
Priod | Catherine Galbraith |
Plant | Peter W. Galbraith, James K. Galbraith |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Swyddog Urdd Canada, Medal Rhyddid yr Arlywydd, dyneiddiwr, Gwobr Pedwar Rhyddid - Rhyddid rhag Eisiau, Medal Aur Lomonosov, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, dinasyddiaeth anrhydeddus, Gwobr Leontief am Hyrwyddo Meddylfryd Economaidd, Padma Vibhushan mewn Llenyddiaeth ac Addysg, honorary doctor of the Katholieke Universiteit Leuven, Gwobr Lysenko, Padma Bhushan, Cymrawd Nodedig Cymdeithas Economaidd America, Q126416245 |
Economegydd o Ganada a dreuliodd ei yrfa yn academydd a swyddog llywodraethol yn Unol Daleithiau America oedd John Kenneth Galbraith OC (15 Hydref 1908 – 29 Ebrill 2006) neu Ken Galbraith. Roedd yn awdur toreithiog, yn ddeallusyn adnabyddus ac yn rhyddfrydwr pybyr. O ran ei economeg, fe arddelai ôl-Keynesiaeth o safbwynt sefydliadol a dadleuodd o blaid mwy o wariant cyhoeddus.
Ganwyd yn Iona Station, pentrefan yn Ontario, a chafodd ei fagu ar fferm. Astudiodd gyrsiau amaeth yng Ngholeg Amaethyddol Ontario (Prifysgol Toronto) cyn iddo ennill ei radd meistr a'i ddoethuriaeth ar bwnc economeg amaethyddol o Brifysgol Califfornia, Berkeley. Addysgodd fyfyrwyr fel tiwtor ym Mhrifysgol Harvard (1934–39) a dirprwy athro yn Princeton (1939–42).[1] Daeth yn ddinesydd Americanaidd yn 1937, ond cafodd ei wrthod o'r fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd am iddo fod yn rhy dal.[2] Bu'n olygydd y cylchgrawn Fortune o 1943 i 1948 cyn iddo ddychwelyd i Harvard i gymryd swydd athro economeg am weddill ei yrfa academaidd. Cafodd ei benodi'n athro emeritws yno yn 1975.
Gwasanaethodd yng ngweinyddiaethau Democrataidd yr Arlywyddion Roosevelt, Truman, Kennedy, a Johnson. Roedd yn llysgennad UDA i India o 1961 i 1963, ac yn un o gynllunwyr rhaglen les "y Gymdeithas Fawr". Ymhlith ei lyfrau mae American Capitalism (1952), The Great Crash, 1929 (1955), The Affluent Society (1958), a The New Industrial State (1967), a The Anatomy of Power (1983).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "Professor J. K. Galbraith[dolen farw]", The Independent (30 Ebrill 2006). Adalwyd ar 29 Mai 2018.
- ↑ (Saesneg) Holcomb B. Noble a Douglas Martin, "John Kenneth Galbraith, 97, Dies; Economist Held a Mirror to Society", The New York Times (30 Ebrill 2006). Adalwyd ar 29 Mai 2018.
- Genedigaethau 1908
- Marwolaethau 2006
- Academyddion yr 20fed ganrif o Ganada
- Academyddion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Academyddion Prifysgol Harvard
- Academyddion Prifysgol Princeton
- Awduron llyfrau ffeithiol am economeg
- Awduron llyfrau ffeithiol Saesneg o Ganada
- Awduron llyfrau ffeithiol Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Califfornia, Berkeley
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Toronto
- Diplomyddion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Economegwyr yr 20fed ganrif o Ganada
- Economegwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Economegwyr yr 21ain ganrif o Ganada
- Economegwyr yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Golygyddion yr 20fed ganrif o Ganada
- Golygyddion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Golygyddion cylchgronau o Ganada
- Golygyddion cylchgronau o'r Unol Daleithiau
- Llysgenhadon i India
- Llysgenhadon o'r Unol Daleithiau
- Pobl a aned yn Ontario
- Pobl fu farw ym Massachusetts
- Pobl o Ganada o dras Albanaidd
- Rhyddfrydwyr o Ganada
- Rhyddfrydwyr o'r Unol Daleithiau
- Ymfudwyr o Ganada i'r Unol Daleithiau