John Kenneth Galbraith

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Kenneth Galbraith
John Kenneth Galbraith.jpg
Ganwyd 15 Hydref 1908 Edit this on Wikidata
Iona Station, Ontario Edit this on Wikidata
Bu farw 29 Ebrill 2006 Edit this on Wikidata (97 oed)
Cambridge, Massachusetts Edit this on Wikidata
Addysg Doethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth economegydd, diplomydd, gwleidydd, academydd, awdur ffeithiol Edit this on Wikidata
Swydd United States Ambassador to India Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddol Y Blaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
Priod Catherine Galbraith Edit this on Wikidata
Plant Peter W. Galbraith, James K. Galbraith Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cymdeithas Goffa John Simon Guggenheim, Swyddog Urdd Canada, Medal Rhyddid yr Arlywydd, dyneiddiwr, Gwobr y Pedwar Rhyddid, Medal Aur Lomonosov, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, dinasyddiaeth anrhydeddus, Gwobr Leontief am Hyrwyddo Meddylfryd Economaidd, Padma Vibhushan in literature & education, Honorary doctor of the Katholieke Universiteit Leuven, prix Lyssenko, Padma Bhushan Edit this on Wikidata

Economegydd Canadaidd a dreuliodd ei yrfa yn academydd a swyddog llywodraethol yn Unol Daleithiau America oedd John Kenneth Galbraith OC (15 Hydref 1908 – 29 Ebrill 2006) neu Ken Galbraith. Roedd yn awdur toreithiog, yn ddeallusyn adnabyddus ac yn rhyddfrydwr pybyr. O ran ei economeg, fe arddelai ôl-Keynesiaeth o safbwynt sefydliadol a dadleuodd o blaid mwy o wariant cyhoeddus.

Ganwyd yn Iona Station, pentrefan yn Ontario, a chafodd ei fagu ar fferm. Astudiodd gyrsiau amaeth yng Ngholeg Amaethyddol Ontario (Prifysgol Toronto) cyn iddo ennill ei radd meistr a'i ddoethuriaeth ar bwnc economeg amaethyddol o Brifysgol Califfornia, Berkeley. Addysgodd fyfyrwyr fel tiwtor ym Mhrifysgol Harvard (1934–39) a dirprwy athro yn Princeton (1939–42).[1] Daeth yn ddinesydd Americanaidd yn 1937, ond cafodd ei wrthod o'r fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd am iddo fod yn rhy dal.[2] Bu'n golygydd y cylchgrawn Fortune o 1943 i 1948 cyn iddo ddychwelyd i Harvard i gymryd swydd athro economeg am weddill ei yrfa academaidd. Cafodd ei benodi'n athro emeritws yno yn 1975.

Gwasanaethodd yng ngweinyddiaethau Democrataidd yr Arlywyddion Roosevelt, Truman, Kennedy, a Johnson. Roedd yn llysgennad UDA i India o 1961 i 1963, ac yn un o gynllunwyr rhaglen les "y Gymdeithas Fawr". Ymhlith ei lyfrau mae American Capitalism (1952), The Great Crash, 1929 (1955), The Affluent Society (1958), a The New Industrial State (1967), a The Anatomy of Power (1983).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) "Professor J. K. Galbraith", The Independent (30 Ebrill 2006). Adalwyd ar 29 Mai 2018.
  2. (Saesneg) Holcomb B. Noble a Douglas Martin, "John Kenneth Galbraith, 97, Dies; Economist Held a Mirror to Society", The New York Times (30 Ebrill 2006). Adalwyd ar 29 Mai 2018.