John Elwyn (arlunydd)
John Elwyn | |
---|---|
Ganwyd | 20 Tachwedd 1916 Adpar |
Bu farw | 13 Tachwedd 1997 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | arlunydd |
Tad | David Davies |
Arlunydd, darlunydd ac addysgwr o Gymru oedd William John Elwyn Davies, a oedd yn cael ei adnabod yn broffesiynol fel John Elwyn (20 Tachwedd 1916 - 13 Tachwedd 1997).[1]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd WIlliam John Elwyn Davies yn Adpar, Castell Newydd Emlyn yn Sir Aberteifi ar 20 Tachwedd 1916. Mynychodd Ysgol Gelf Caerfyrddin rhwng 1935 a 1937 a Choleg Celf Gorllewin Lloegr ym Mryste ym 1937-38. Cafodd ysgoloriaeth Arddangosfa i astudio yn y Coleg Celf Brenhinol, Llundain, lle bu'n astudio yn 1938-40 a 1946-47. Fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd ei anfon i weithio ar y tir - yn gyntaf fel gweithiwr coedwigaeth yn Nyffryn Afan, ac yna (o fis Medi 1941) yn garddio mewn cymuned o Grynwyr yng Nghaerdydd.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ar ôl cyfnod byr yn gweithio fel dylunydd graffig i J. Walter Thompson yn Llundain, symudodd i Portsmouth lle bu'n dysgu yn y Coleg Celf. Yn 1949 cychwynnodd gyfres o baentiadau yn seiliedig ar atgofion plentyndod o fywyd gwledig yn Sir Aberteifi yn y 1920au - mynd i'r capel, gwyliau ac angladdau.
Erbyn y 1950au roedd John Elwyn yn arddangos yn Academi Frenhinol y Celfyddydau, y 'New English Art Club' ac yn rheolaidd mewn arddangosfeydd a drefnwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Yn gynnar yn y 1950au gwnaeth baentiadau o lowyr a'u tirwedd ger Pontrhydyfen yng Nghwm Tawe yn seiliedig ar ei brofiadau o weithio ar y tir yng nghyfnod y Rhyfel. Cyfrannodd lawer gwaith i'r arddangosfeydd blynyddol 'Darluniau i Ysgolion Cymru' a drefnwyd gan y Gymdeithas Addysg trwy Gelf a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, rhwng 1950 a 1968.
Ym 1953 symudodd i Winchester lle bu'n dysgu yn Ysgol Gelf Winchester. Yn yr un flwyddyn gwnaeth ei ddarluniau cyntaf ar gyfer y Radio Times. Bu'n gweithio ar baentiadau o fywyd fferm yn Sir Aberteifi yn bennaf rhwng 1955 a 1960. Yn 1956 dyfarnwyd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain iddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn Aberdâr. Cafodd darluniau ganddo a gomisiynwyd gan Kenneth Rowntree ar gyfer 'Shell Guides' eu cyhoeddi ym 1958.
Rhwng 1960 a 1964 bu'n gweithio ar baentiadau a ddechreuodd ar oedd yn ymylu ar fod yn haniaethol. Maent yn seiliedig ar y tymhorau ac ar dyfu a thorri coed yng Nghoedwig Savernake. Rhwng 1965 a 1969 seiliodd ei luniau ar newidiadau tymhorol yn ei ardd a darganfod byd o fewn byd wrth iddo archwilio strwythurau mewnol blodau a chodennau hadau. Llwyfannodd sioeau un dyn yn Orielau Caerlŷr, Llundain, ym 1965 a 1969.
Ym 1970, ar ôl deng mlynedd o waith lled haniaethol, dychwelodd i gynrychiolaeth uniongyrchol o dirwedd Sir Aberteifi. Y flwyddyn honno, fe’i gwahoddwyd i ddod yn aelod Anrhydeddus o Academi Frenhinol Gymreig . Mae ei baentiadau yn cyflwyno darlun delfrydol a heddychlon o fywyd yng nghefn gwlad, gan gofnodi gweithgareddau ar wahanol adegau o'r dydd ac o dymor i dymor. Cyfuniad o gof a dychymyg oedd y tu ol i'w ail-greu atgofus o dirwedd Sir Aberteifi, gyda'i phentrefi diarffordd, ffermydd unig, bythynnod, ysguboriau a lonydd gwledig ysgubol yn diflannu i'r gorwel.
Ymddeolodd John Elwyn o Ysgol Gelf Winchester ym 1976.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Cafodd John Elwyn ei ethol yn aelod o'r Sefydliad Brenhinol ym 1979, yn Aelod Anrhydeddus o Orsedd y Beirdd ym 1982 a dyfarnwyd DLitt er Anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru ym 1996. Y flwyddyn honno, i nodi ei pen-blwydd yn wyth deg oed, cynhaliwyd arddangosfa ôl-syllol fawr a oedd wedi'i hymchwilio a'i churadu gan Robert Meyrick o Brifysgol Aberystwyth i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae paentiadau John Elwyn yn dystiolaeth o'i gariad at Gymru. Er iddo fyw yn Hampshire o 1948, Cymru roddodd ysbrydoliaeth i'w luniau ac yno oedd ei gartref ysbrydol. Seiliai ei waith yn barhaus ar ei brofiad eang o fywyd gwaith cefn gwlad, buarth y fferm a chaeau da yn nyffrynoedd Teifi a Ceri a'r ucheldir.
Bu farw ar 13 Tachwedd 1997, ryw dair wythnos ar ôl cwympo yng ngardd ei gartref yn Winchester. Yn 2000, cynhaliodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru Arddangosfa Goffa i gyd-fynd â chyhoeddi monograff Robert Meyrick ar ei fywyd a'i waith.
Bu datblygiad John Elwyn fel arlunydd yn seiliedig ar draddodiad Cymreig gynhenid. O ran testun ac arddull, roedd ei waith yn perthyn i draddodiad tirluniau gwledydd Prydain, ac o fewn cyd-destun Ewropeaidd. Mae'r paentiadau'n ymwneud â'i deulu a'i amgylchiadau personol. Yng ngeiriau John Elwyn ei hun 'Nid oedd a wnelo hyn o gwbl â chelf fodern esoterig ond darlunio hunangofiannol yn unig. Mae gen i feddwl plwyfol - heddiw fe'i gelwir weithiau yn rhanbarthol. Rwy’n cytuno â Benjamin Britten pan ddywed “y pethau pwysig yw’r pethau lleol”' (cyfieithiad).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Stephens, Meic (25 Tachwedd 1997). "Ysgrif goffa: John Elwyn". The Independent. Cyrchwyd 2013-10-17.