John Edward Jones (Nevada)

Oddi ar Wicipedia
John Edward Jones
Ganwyd5 Rhagfyr 1840 Edit this on Wikidata
Sir Drefaldwyn Edit this on Wikidata
Bu farw10 Ebrill 1896 Edit this on Wikidata
San Francisco Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner UDA UDA
Alma mater
  • Prifysgol Talaith Iowa Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddGovernor of Nevada Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolSilver Party Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Jones-Sifford Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd John Edward Jones (5 Rhagfyr, 184010 Ebrill, 1896) yn wleidydd Americanaidd. Ef oedd wythfed Llywodraethwr Talaith Nevada.[1] Roedd yn aelod o'r Blaid Arian (cyn blaid yn yr UD oedd yn cefnogi mwy o ryddid i fathu arian) .

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Jones yn Llanfihangel yng Ngwynfa Sir Drefaldwyn yn fab i Edward Jones a Mary ei wraig.[2] Fodd bynnag symudodd ei deulu i Iowa ym 1856. Derbyniodd ei addysg elfennol yn ysgolion cyffredin ei Gymru frodorol. Graddiodd o Brifysgol Talaith Iowa ym 1865.[3] Priododd Elizabeth Weyburn ar 25 Tachwedd, 1880, bu iddynt ddau o blant, Edith ac Arvin.[4]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Fel dyn ifanc, bu Jones yn gweithio fel glowyr, ffermwr ac athro. Ym 1867, bu'n gweithio ar adeiladu'r Rheilffordd Union Pacific. Wrth ymgartrefu yn Eureka, Nevada ym 1869, bu'n chware ran wrth drefnu milisia Nevada ym 1876 gan gael ei ddyrchafu'n uwchgapten.[5]

Bu Jones yn gweithio ym meysydd mwyngloddio ac amaethyddiaeth hyd 1883, pan gafodd ei benodi'n Ddirprwy Gasglwr Refeniw Mewnol Nevada. O 1886 i 1894, roedd yn Syrfëwr Cyffredinol Nevada, gan wasanaethu am ddau dymor.

Ymddiswyddodd Jones o swydd y Syrfëwr Cyffredinol, ym 1894 er mwyn sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer penodi Llywodraethwr Nevada ar docyn y Blaid Arian (The Silver Party). Enillodd yr etholiad gan gychwyn ar ei waith fel Llywodraethwr ym mis Ionawr 1895. Yn ystod ei ddaliadaeth, cefnogodd rhaglenni dyfrhau a sefydlodd llyfrgell gyhoeddus gyntaf y wladwriaeth yn Reno, Nevada. Yn ystod ei gyfnod fel llywodraethwr bu'n fyw yn Carson City, Nevada.[6] Wedi derbyn diagnosis meddygol o ganser yn nhymor yr Hydref 1895, cymerodd gyfnod o absenoldeb, gan roi cyfrifoldebau'i swydd i'r Is lywodraethwr Reinhold Sadler. Teithiodd i San Francisco, California i geisio gwellhad.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Jones, wedi colli ei frwydr gyda chanser, ar 10 Ebrill, 1896, yn San Francisco yn 55 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym Mynwent Lone Mountain, Carson City, Nevada.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "John E. Jones." The National Cyclopedia of American Biography, cyf. XI, New York, New York: James T. White & Company, 1902. Tud 201
  2. Nevada Governors' Biographical Information adalwyd 10 Tachwedd 2018
  3. Nevada Governor's Assocciation Governor John Edward Jones[dolen marw] adalwyd 11 Tachwedd 2018
  4. Navada Women ELIZABETH (WEYBURN) JONES-SIFFORD (1861 – 1925) Archifwyd 2020-05-31 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 10 Tachwedd 2018
  5. The Encyclopedia of Nevada adalwyd 10 Tachwedd 2018
  6. Las Vegas Review-Journal Home of Nevada’s eighth governor up for sale adalwyd 10 Tachwedd 2018
  7. Find a grave John Edward Jones adalwyd 10 Tachwedd 2018