John Brooks, Barwn Brooks o Dremorfa

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Brooks, Barwn Brooks o Dremorfa
Ganwyd 12 Ebrill 1927 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw Mawrth 2016 Edit this on Wikidata (88 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Gwleidydd a gweinyddwr bocsio Cymreig oedd John Edward "Jack" Brooks, Baron Brooks o Dremorfa DL (12 Ebrill 19274 Mawrth 2016).[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Brooks yng Nghaerdydd yn 1927, yn fab i Edward George Brooks a Rachel White, a fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Harlech.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhwng 1966 a 1984, roedd Brooks yn Ysgrifennydd Y Blaid Lafur i etholaeth De-ddwyrain Caerdydd. Yn etholiad cyffredinol Chwefror 1974 a Hydref 1974, ymgeisiodd dros Lafur yn etholaeth Y Barri. Bu'n asiant i'r cyn prif-weinidog Jim Callaghan a gynrychiolodd sawl etholaeth yng Nghaerdydd.

Etholwyd Brooks fel cynghorydd yn ward Splott yng Nghaerdydd.[3] Daeth yn arweinydd Cyngor Sir De Morgannwg (CSDM), ac roedd yn adnabyddus am ei "arweinyddiaeth gadarn" a'i reolaeth effeithiol o grŵp y Blaid Lafur yn yr 1980au[4] Daeth Brooks i'w weld fel dylanwad mawr ar Russell Goodway a fyddai'n dod yn arweinydd y Cyngor Sir a Chyngor Chaerdydd yn ddiweddarach.[4]

Ar 17 Gorffennaf 1979, daeth yn Arglwydd am oes, fel Barwn Brooks o Dremorfa, o Dremorfa yn Sir Forgannwg.[5] Cafodd anrhydedd pellach gyda Chymrodoriaeth er Anrhydedd yn Athrofa Prifysgol Cymru (UWIC). Fel Dirprwy Gadeirydd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd (a chynrychiolydd y Cyngor), roedd yn allweddol yn ail-ddatblygu ardal y Dociau yng Nghaerdydd a adnabyddir heddiw fel Bae Caerdydd.[3]

Roedd Brooks yn Is-gadeirydd Bwrdd Rheoli Bocsio Prydain rhwng 1999 a 2000 a daeth yn llywydd y bwrdd yn 2004. Yn 2001 enillodd y cyn-focsiwr Michael Watson achos o esgeulustod yn erbyn y Bwrdd, roedd yn rhaid iddynt dalu £400,000 o iawndal ac roedd yn rhaid gwerthu ei phencadlys yn Llundain. I osgoi methdaliad roedd yn rhaid i'r bwrdd arbed arian ac roedd Brooks yn allweddol i'r cynnig i symud pencadlys y bwrdd i swyddfeydd newydd yng Nghaerdydd.[6] Roedd Brooks yn gyn-gadeirydd Oriel Enwogion Chwaraeon Cymru o 1988, a Sportsmatch Cymru ers 1992.[7] Yn 1994, fe'i gwnaed yn Ddirprwy Raglaw dros Dde Morgannwg.[8]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Brooks gyntaf yn 1948 ond fe ysgarodd yn 1956. Yn 1958, priododd Margaret Pringle. Roedd ganddo fab a merch o'r briodas gyntaf a dau fab gyda Margaret.[2] Bu farw ar 4 Mawrth 2016 yn 88 mlwydd oed.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Baroness D'Souza, The Lord Speaker (8 March 2016). "Today's House of Lords debates - Tuesday 08 March 2016". Parliamentary Debates (Hansard). United Kingdom: House of Lords.CS1 maint: Multiple names: authors list (link)
  2. 2.0 2.1 Brooks, John Edward.
  3. 3.0 3.1 "Jack Brooks", South Wales Echo, 25 February 2005.
  4. 4.0 4.1 Hooper, Alan; Punter, John (2006). Capital Cardiff 1975-2020: Regeneration, Competitiveness and the Urban Environment. University of Wales Press. p. 37. ISBN 0-7083-2063-5.
  5. London Gazette: no. 47908. p. 9066. 19 July 1979.
  6. "Board switches base to Cardiff". 2001-12-20. http://news.bbc.co.uk/sport1/hi/boxing/1722010.stm.
  7. Frank Warren (4 March 2016). "Boxing will miss Jack Brooks, a true champion of the Noble Art". Cyrchwyd 7 March 2016.
  8. 8.0 8.1 Shipton, Martin (4 March 2016). "Lord Jack Brooks, who laid the foundations for Cardiff's transformation, has died aged 88". WalesOnline. http://www.walesonline.co.uk/news/local-news/lord-jack-brooks-who-laid-10990580. Adalwyd 4 March 2016.