John Gruffydd Moelwyn Hughes
John Gruffydd Moelwyn Hughes | |
---|---|
Ffugenw | Moelwyn ![]() |
Ganwyd | 30 Mai 1866 ![]() Tanygrisiau ![]() |
Bu farw | 25 Mehefin 1944 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, emynydd, gweinidog yr Efengyl ![]() |
Plant | Goronwy Moelwyn Hughes ![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/f/f4/Moelwyn_-_Bardd_y_Ddinas_Gadarn_%28llyfr%29.jpg/180px-Moelwyn_-_Bardd_y_Ddinas_Gadarn_%28llyfr%29.jpg)
Emynydd a bardd oedd John Gruffydd Moelwyn Hughes (30 Mai 1866 – 25 Mehefin 1944), neu "Moelwyn"; roedd yn frodor o Dan-y-grisiau, ger Blaenau Ffestiniog, Gwynedd.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Mab i chwarelwr ydoedd. Yn ei amser roedd yn un o weinidogion mwyaf adnabyddus y Methodistiaid Calfinaidd.
Ymddiddorai'n fawr yng ngwaith Pantycelyn a chyhoeddodd astudiaethau arno a'i waith.
Cyhoeddodd bedair cyfrol o farddoniaeth yn dwyn y teitl Caniadau Moelwyn (1893-1914). Roeddent yn boblogaidd iawn a chawsant eu hail-argraffu droeon. Yn ogystal cyhoeddwyd bumfed gyfrol, Caneuon Olaf Moelwyn yn 1955, ar ôl ei farwolaeth.
Roedd O. M. Edwards ymhlith ei edmygwyr. Mewn adolygiad o'r drydedd gyfres o Ganiadau mae'n dweud,
- "Darnau byrion llawn o feddylgarwch a naws. // Caniadau bychain dewisol ydynt: hoff gydymaith ar awr dawel fore Sabboth neu ryw hwyr, ac yn cynnwys rhai darnau geidw eu lle yn barhaol, tra teimlad Cymro y peth yw."[angen ffynhonnell]
Canwyd ei emyn "Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn?" yng ngwasanaeth angladd David Lloyd George.[angen ffynhonnell]