Joanna Davies

Oddi ar Wicipedia
Joanna Davies
GanwydMehefin 1973 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcynhyrchydd teledu, ysgrifennwr, colofnydd Edit this on Wikidata

Awdur nofelau Cymraeg a Saesneg yw Joanna Davies (ganwyd 1973).

O Gorslas, Cwm Gwendraeth, mynychodd Ysgol Gyfun Ddwyieithog Maesyryrfa, Cefneithin cyn mynd i Brifysgol Aberystwyth lle astudiodd Ysgrifennu Creadigol o dan Mihangel Morgan a John Rowlands. Yna astudiodd am MPhil mewn Ffilm a Theledu cyn gweithio am ddeng mlynedd fel Cynhyrchydd Teledu i ITV Cymru, S4C a BBC Cymru.[1]

Cyhoeddodd bum nofel Gymraeg, sef Ffreshars (2008), Mr Perffaith (2011) Ieuan Bythwyrdd (2013) Cario 'Mlaen (2014) ac Un Man (2015). Yn Saesneg mae Freshers, Mr Perfect a Dream State[2]

Bellach mae'n byw yn Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Joanna Davies - Authors". www.gomer.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-08. Cyrchwyd 2020-01-10.
  2. "Joanna Davies". www.goodreads.com. Cyrchwyd 2020-01-10.
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.