Jesse James

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jesse James
Jesse james portrait.jpg
Ganwyd Jesse Woodson James Edit this on Wikidata
5 Medi 1847 Edit this on Wikidata
Kearney Edit this on Wikidata
Bu farw 3 Ebrill 1882 Edit this on Wikidata (34 oed)
St. Joseph Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaeth cowboi, gwylliad Edit this on Wikidata
Tad Robert S. James Edit this on Wikidata
Mam Zerelda James Edit this on Wikidata
Priod Zerelda Mimms Edit this on Wikidata
Plant Jesse E. James Edit this on Wikidata

Roedd Jesse Woodson James (5 Medi 18473 Ebrill 1882) yn herwr, lleidr banc a llofrudd o Americanwr a aned yn Centerville, Missouri, UDA. Rhwng 1860 a 1881, credir fod y James Gang wedi dwyn cymaint a $200,000. Cynhyrchwyd y ffilm cyntaf ohono yn 1921: Jesse James Under the Black Flag a oedd yn serennu ei fab, o'r un enw.

Jesse oedd aelod enwocaf Giang James-Younger. Ers ei farwolaeth yn St. James, Missouri, yn 1882, mae wedi tyfu'n ffigwr llên gwerin gyfoes sydd wedi ysbrydoli sawl ffilm, llyfr a chylchgrawn cartŵn. Roedd y teulu o dras Gymreig: enwyd Jesse ar ôl ei hen-daid, Jesse Woodson James, a anwyd yn Sir Benfro, oedd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr ac yn 1754 a ymfudodd i Bennsylvania gyda'i deulu.[1] Enw'i daid (sef mab Jesse Woodson James) oedd John James.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. www.thefreelibrary.com; adalwyd 17 Mawrth 2015
  2. www.engagingnews.us; adalwyd 17 Mawrth 2015

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Daily Post (30 Ebrill 2008)
Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.