Jerusalem (Anthem William Blake)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae Jerusalem yn gerdd gan William Blake o ragair i'w gerdd hir Milton A Poem in Two Books, (1808). Bellach mae'n cael ei adnabod fwyaf fel anthem wladgarol Saesneg sy'n cael ei ganu i gerddoriaeth a gyfansoddwyd gan Syr Hubert Parry ym 1916.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysbrydolwyd y gerdd gan y stori apocryffaidd fod yr Iesu ifanc, yng nghwmni Joseff o Arimathea, masnachwr tun, wedi teithio i’r hyn sydd bellach yn Lloegr ac wedi ymweld ag Ynys Wydrin yn ystod ei blentyndod. Wrth gwrs pe bai Joseff a'r Iesu wedi ymweld ag Ynys Wydrin, byddent wedi ymweld â Gwlad Haf y Cymry Brythoneg, nid Somerset y Saeson.

Mae thema’r gerdd yn gysylltiedig â Llyfr Datguddiad (adnodau 3:12 a 21:2) sy'n disgrifio'r Ail Ddyfodiad, lle mae'r Iesu'n sefydlu Jerwsalem Newydd ar y ddaear. Bu Cristionogion am amser maith yn defnyddio'r enw Jerwsalem fel moes am y Nefoedd, lle llawn cariad, dedwyddwch a hedd.

Mae'r dehongliad symlaf o'r gerdd, yn awgrym byddai ymweliad gan yr Iesu wedi creu nefoedd ar y ddaear yn Lloegr am gyfnod byr, byddai'n cyferbyniad i Felinau Tywyll Satanaidd y Chwyldro Diwydiannol. Gydag ysbryd brawdgarwch Cristionogol byddai modd ail greu'r nefoedd eto ar diroedd Lloegr. Y dehongliad yma sydd tu ôl i ddefnydd modern y gerdd yn Noson Olaf y Proms neu yn ei ddefnydd fel anthem wladgarol Seisnig. Dehongliad sy'n gwneud cam a bwriad yr awdur.

Yr awdur[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Blake yn Gristion ymroddedig a oedd yn elyniaethus i Eglwys Loegr (yn wir, i bron bob math o grefydd drefniadol). Yn ein dyddiau ni mi fyddai'n cael ei alw'n aelod o'r chwith gwleidyddol. Dylanwadwyd ar Blake gan ddelfrydau ac uchelgeisiau’r Chwyldroadau Ffrengig ac Americanaidd. Melltithiodd athrawiaeth rhesymoliaeth a materoliaeth ei oes, sef Oes yr Oleuo, am eu bod yn llesteirio'r dychymyg a gwir grefydd.

Gwir ddehongliad y gerdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Er bod y gerdd yn fwys awgrymu bod melinau gwlân Swydd Gaerhirfryn a melinau blawd diwydiannol Llundain yn Satanaidd, nid dyna wir ergyd y gerdd. Gwir Felinau Satanaidd y gerdd yw Eglwys Loegr a'i Eglwysi Cadeiriol ac Eglwysi plwyf crand oedd yn cynnig dim ond ildio i'r drefn bod Duw wedi creu bonedd a gwrêng a bod angen i'r tlodion derbyn eu safle, ac ildio i'r fath drefn,[1] ac mae dulliau chwildro America a Ffrainc oedd y modd o gael gwared ohonynt i greu Jerwsalem newydd ar dir Lloegr. [2]

Geiriau'r gerdd[golygu | golygu cod y dudalen]

And did those feet in ancient time

Walk upon England's mountains green?

And was the holy lamb of God

On England's pleasant pastures seen?


And did the countenance divine

Shine forth upon our clouded hills?

And was Jerusalem builded here

Among those dark Satanic mills?


Bring me my bow of burning gold!

Bring me my arrows of desire!

Bring me my spears o'clouds unfold,

Bring me my chariot of fire.


I will not cease from mental fight,

Nor shall my sword sleep in my hand,

Till we have built Jerusalem

In England's green and pleasant land.

Cyfieithiad i'r Gymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfieithwyd y gerdd i'r Gymraeg gan D Miall Edwards. Yn anffodus does dim synnwyr i'r cyfieithiad parthed ystyr y gerdd Saesneg gwreiddiol.

A sangodd traed ein Harglwydd gynt

Anial fynyddoedd Cymru gu?

A welwyd sanctaidd Oen ein Duw

Hyd ddolydd gwyrddlas Cymru cu?


A fu ei wyneb dwyfol ef

Gynt yn goleuo'r dywyll fro?

A fu Jeriwsalem dinas Duw

Yng ngwlad y mwg a'r pyllau glo?


Rhowch im fy mwa euraid llosg!

Saethau fy nymuniadau glan!

Fy mhicell rhowch! O! gwmwl, hollt!

A dygwch im fy ngherbyd tan.


Ni chwsg fy nghleddyf yn fy llaw,

Ni ddianc f'enaid rhag y gad

Nes codi mur Jeriwsalem

Ar feysydd gwyrddlas Cymru fad.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]