Jennifer Michael Hecht
Jennifer Michael Hecht | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 23 Tachwedd 1965 ![]() Glen Cove ![]() |
Man preswyl | Brooklyn ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, hanesydd, athronydd, llenor ![]() |
Mudiad | anffyddiaeth ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Ralph Waldo Emerson ![]() |
Awdures Americanaidd yw Jennifer Michael Hecht (ganwyd 23 Tachwedd 1965) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, hanesydd, athronydd ac athrawes. Bu'n athro prifysgol yng Ngholeg Cymuned Nassau rhwng 1994-2007 ac yn ddiweddar bu'n dysgu yn 'y Coleg Newydd' yn Efrog Newydd.
Fe'i ganed yn Long Island ar 23 Tachwedd 1965. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Columbia a Phrifysgol Adelphi.[1][2]
Erbyn 2019 roedd wedi cyhoeddi saith llyfr a chyhoeddwyd ei herthyglau ysgolheigaidd mewn nifer o bapurau a chylchgronau, ac mae ei barddoniaeth wedi ymddangos yn The New Yorker, The New Republic, Ms Magazine, a Poetry Magazine, ymhlith eraill. Mae hefyd wedi ysgrifennu traethodau ac adolygiadau o lyfrau yn The New York Times, The Washington Post, The Philadelphia Inquirer, The American Scholar, The Boston Globe a chyhoeddiadau eraill. Mae hi wedi ysgrifennu sawl colofn ar gyfer The New York Times ar-lein "Times Select." Yn 2010 roedd Hecht yn un o'r pum beirniad ffuglen ar gyfer y Wobr y Llyfr Genedlaethol.
Mae ganddi flog yn y gyfres The Best American Poetry ac un arall yn ei gwefan hi ei hun. Yn Brooklyn, Efrog Newydd mae'n byw ar hyn o bryd (2019), gyda'i gŵr a dau o blant.
Magwareath
[golygu | golygu cod]Wedi'i eni yn Glen Cove, Efrog Newydd ar Long Island, aeth Hecht i Brifysgol Adelphi lle enillodd radd BA mewn hanes, gyda chyfnodau o astudio yn Université de Caen, a'r Université d'Angers. Derbyniodd ei PhD am waith o fewn Hanes Gwyddoniaeth o Brifysgol Columbia yn 1995 ac fe ddysgodd yng Ngholeg Cymunedol Nassau o 1994 i 2007, fel athro cysylltiol hanes. Mae Hecht wedi dysgu yn y rhaglenni MFA yn The New School a Phrifysgol Columbia, ac mae'n gymrawd o Sefydliad y Dyniaethau, Efrog Newydd.
Llyfryddiaeth ddethol
[golygu | golygu cod]Hanes ac athroniaeth
[golygu | golygu cod]- 2003 The End of the Soul: Scientific Modernity, Atheism, and Anthropology in France, 1876-1936 — ISBN 0-231-12846-0
- 2003 Doubt, A History: The Great Doubters and Their Legacy of Innovation from Socrates and Jesus to Thomas Jefferson and Emily Dickinson — ISBN 0-06-009772-8
- 2007 The Happiness Myth: The Historical Antidote to What Isn't Working Today — ISBN 0-06-081397-0
- 2013 Stay: A History of Suicide and the Philosophies Against It — ISBN 0-300-18608-8
Papurau a chylchgronnau
[golygu | golygu cod]- Hecht, Jennifer Michael (April 2000). "Vacher de Lapouge and the Rise of Nazi Science". Journal of the History of Ideas 61 (2): 285–304. doi:10.1353/jhi.2000.0018. https://muse.jhu.edu/login?auth=0&type=summary&url=/journals/journal_of_the_history_of_ideas/v061/61.2hecht.html. Adalwyd 12 April 2014. This article examines Georges Vacher de Lapouge's contribution to the ideology in the Nazi "Final Solution". "Lapouge's contribution to racism was a quantitative, well-written race theory that was replete with the language and tools of science. It was particularly appealing because it described a collection of human groups which sounded too scientific and clinical to be political."
- Hecht, Jennifer Michael (March 1999). "The Solvency of Metaphysics: The Debate over Racial Science and Moral Philosophy in France,1890-1919". Isis 90 (1): 1–24. doi:10.1086/384239. https://www.scribd.com/doc/157273081/The-Solvency-of-Metaphysics-The-Debate-Over-Racial-Science-and-Moral-Philosophy-in-France-1890-1919. Adalwyd 12 April 2014.
- Hecht, Jennifer Michael (Summer 1997). "A vigilant anthropology: Léonce Manouvrier and the disappearing numbers". Journal of the History of the Behavioral Sciences 33 (3): 221–240. doi:10.1002/(sici)1520-6696(199722)33:3<221::aid-jhbs2>3.0.co;2-u.
- Hecht, Jennifer Michael (December 2013). "Stopping Suicide". The Chronicle of Higher Education. http://chronicle.com/article/Stopping-Suicide/143279/. Adalwyd 12 April 2014.
Varddoniaeth
[golygu | golygu cod]- 2001 The Next Ancient World — ISBN 0-9710310-0-2
- 2005 Funny — ISBN 0-299-21400-1
- 2013 Who Said (Copper Canyon Press) - ISBN 978-1-55659-449-6
Casgliadau
[golygu | golygu cod]- Best American Poetry 2005, Paul Muldoon and David Lehman, eds. (Scribner's, 2005).
- Good Poems for Hard Times, Garrison Keillor, ed. (Viking/Penguin, 2005).
- Poetry Daily, Boller, Selby, and Yost, eds. (Sourcebooks, 2003).
- Good Poems, Garrison Keillor, ed. (Viking/Penguin, 2002).
- Poems to Live by in Uncertain Times, Joan Murray, ed. (Beacon, 2001).
- The Best American Poetry 1999, Robert Bly and David Lehman, eds. (Scribner's, 1999).
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Ralph Waldo Emerson (2004) .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
- ↑ Dyddiad geni: "Jennifer Michael Hecht". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.