Robert Bly

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Robert Bly
Poetry Out Loud MN finals 27.jpg
Roberty Bly ar y llwyfan yng nghystadleuaeth Poetry Out Loud, ym Minnesota, yn 2009.
GanwydRobert Elwood Bly Edit this on Wikidata
23 Rhagfyr 1926 Edit this on Wikidata
Lac qui Parle County Edit this on Wikidata
Bu farw21 Tachwedd 2021 Edit this on Wikidata
Minneapolis Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethieithydd, bardd, cyfieithydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddPoet Laureate of Minnesota Edit this on Wikidata
Adnabyddus amIron John: A Book About Men Edit this on Wikidata
PriodCarol Bly Edit this on Wikidata
PlantEloisa James Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymdeithas Goffa John Simon Guggenheim, Anvil Award, Gwobr Cenedlaethol y Llyfr, Ysgoloriaethau Fulbright, Gwobr Llyfr Cenedlaethol am Farddoniaeth, Gwobr Tranströmerpriset Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.robertbly.com/ Edit this on Wikidata

Bardd, ysgrifwr, a chyfieithydd Americanaidd oedd Robert Elwood Bly (23 Rhagfyr 192621 Tachwedd 2021) a fu'n nodedig fel un o arweinwyr y mudiad dynion mythopoeig. Cyhoeddodd ryw hanner cant o gyfrolau yn ystod ei oes.

Ganed ef yn Lac qui Parle County, yng ngorllewin Minnesota, i deulu o dras Norwyaidd. Graddiodd o'r uwchysgol yn ninas fechan Madison, Minnesota, ym 1944, a gwasanaethodd yn Llynges yr Unol Daleithiau am ddwy flynedd. Astudiodd yng Ngholeg St Olaf yn Northfield, Minnesota, am un flwyddyn cyn iddo drosglwyddo i Brifysgol Harvard. Derbyniodd ei radd baglor ym 1950, a threuliodd sawl blwyddyn yn Efrog Newydd yn darllen barddoniaeth. Aeth i Brifysgol Iowa i ennill gradd meistr o weithdy'r llenorion ym 1956, ac yna dychwelodd i Madison. Ym 1956–7 derbyniodd gymrodoriaeth i deithio i Norwy. Priododd â'r awdures Carol McLean ym 1955 a chawsant bedwar plentyn cyn iddynt ysgaru ym 1979. Ailbriododd Bly â therapydd o'r enw Ruth Ray ym 1980.[1]

Ym 1958 cyd-sefydlodd Bly gylchgrawn barddoniaeth o'r enw The Fifties, a fyddai'n para am sawl degawd arall dan yr enwau The Sixties, The Seventies, a The Eighties. Daeth i'r amlwg am ei brotestiadau barddonol yn erbyn ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn Rhyfel Fietnam, ac enillodd Wobr Genedlaethol y Llyfr am ei gyfrol The Light Around the Body (1968). Yn y 1970au ysgrifennodd 11 o lyfrau, gan gynnwys casgliadau o gerddi, ysgrifau, a chyfieithiadau, ac yn y 1980au a'r 1990au cyhoeddodd 27 cyfrol arall.[1] Ei lyfr enwocaf, mae'n debyg, yw Iron John: A Book About Men, cyfrol sydd yn tynnu ar fythau, chwedloniaeth, barddoniaeth, a'r gwyddorau mewn ymdrech yr awdur i ddadlau dros adfer gwrywdod. Ystyrir Iron John yn brif destun y mudiad dynion mythopoeig, a fu'n cynnig hunangymorth i ddynion Americanaidd.

Yn ogystal â'i farddoniaeth wreiddiol a'i ryddiaith, cyfieithai Bly sawl cerddi, nofel, a drama i'r Saesneg, gan gynnwys gweithiau'r beirdd Rainer Maria Rilke, Tomas Tranströmer, Pablo Neruda, ac Antonio Machado, y nofel Sult gan Knut Hamsun, a'r ddrama Peer Gynt gan Henrik Ibsen.[2] Yn 2008 penodwyd Bly yn fardd llawryfog cyntaf Minnesota gan y Llywodraethwr Tim Pawlenty. Bu farw Robert Bly yn ei gartref ym Minneapolis yn 94 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Robert D. McFadden, "Robert Bly, Poet Who Gave Rise to a Men’s Movement, Dies at 94", The New York Times (22 Tachwedd 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Tachwedd 2021.
  2. (Saesneg) Robert Bly. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Tachwedd 2021.