Jelly Roll Morton

Oddi ar Wicipedia
Jelly Roll Morton
Llun gyhoeddusrwydd o Jelly Roll Morton (tua 1927).
FfugenwJelly Roll Morton Edit this on Wikidata
GanwydFerdinand Joseph LaMothe Edit this on Wikidata
20 Hydref 1890 Edit this on Wikidata
New Orleans Edit this on Wikidata
Bu farw10 Gorffennaf 1941 Edit this on Wikidata
o asthma Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
Label recordioVocalion Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Arddulljazz Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Rock and Roll Hall of Fame Edit this on Wikidata

Cyfansoddwr, pianydd, a blaenwr band Americanaidd oedd Jelly Roll Morton (Ferdinand Joseph La Menthe; 20 Hydref 189010 Gorffennaf 1941) a fu'n un o brif arloeswyr cerddoriaeth jazz. Cychwynnodd canu'r piano mewn putendai yn New Orleans yn ei ieuenctid, ac arbrofodd yn gynnar â ffurfiau newydd jazz drwy gyfuno ragtime â'r felan. Recordiodd yn gyntaf ym 1923, ac o 1926 i 1930 perfformiodd ar rai o'r recordiadau jazz cynharaf gyda'i fand, y Red Hot Peppers. Er nad oedd ei honiad o "ddyfeisio jazz" yn wir, efe oedd y cyntaf i ddefnyddio effeithiau rhagdrefnedig a lled-gerddorfaol mewn perfformiadau gan fandiau jazz.

Oddeutu 1917, symudodd i dalaith Califfornia, a pherfformiodd mewn clybiau nos nes 1922. Bu farw yn Los Angeles, Califfornia.

Ymhlith ei gyfansoddiadau o nod mae "Wolverine Blues", "Black Bottom Stomp", "King Porter Stomp", "Shoe Shiner’s Drag", a "Dead Man Blues".

Bywyd cynnar a theulu[golygu | golygu cod]

Mae nifer o fanylion am fywyd cynnar a theulu Ferdinand Joseph La Menthe, neu Lamothe, yn ansicr. Nid oedd eto yn orfodol i bob baban yn yr Unol Daleithiau dderbyn tystysgrif geni, ond yn ôl y nifer fwyaf o ffynonellau cafodd ei eni ym 1890, naill ai ar 20 Medi neu 20 Hydref.[1] Fodd bynnag, cofnododd Morton 13 Medi 1884 ar ei gerdyn i ymrestru â'r lluoedd arfog ym 1917,[2] ac mewn cyfweliadau'r â'r ethnogerddolegydd Alan Lomax mynnodd taw 20 Medi 1885 oedd ei ddyddiad geni.[3] Ei dad oedd E. P. Le Menthe, neu LaMothe, saer a oedd wedi dysgu'r trombôn yn ffurfiol. Yn ôl rhai ffynonellau cafodd ei eni naill ai yn Gulfport, Louisiana, neu yn Gulfport, Mississippi,[1] ond bellach gwyddys yn sicr mae New Orleans, Louisiana, oedd ei fan geni, yn nhŷ'r teulu yn Frenchmen Street yn 7fed Ward y ddinas.[4]

Yn ôl yr hanes teuluol a'i draddodai i'r ethnogerddolegydd Alan Lomax, disgynnai Morton o wladychwyr Ffrengig a symudodd i La Nouvelle-Orléans pan oedd y diriogaeth yn rhan o Ffrainc Newydd, cyn Pryniant Louisiana (1803) gan yr Unol Daleithiau.[5] Yn ôl ymchwil diweddar, mae'n sicr yr oedd o leiaf dau o orhendeidiau Morton, ar ochr ei fam, wedi eu geni yn Ffrainc. Ymfudasant i Louisiana yn nechrau'r 19g, a phriododd Jean Baptiste Péché (1803–tua 1846) ag Adélaïde Duplessis (1803–ar ôl 1848), merch groenliw rydd, a chyplodd y Ffrancwr arall, Amédée Antoine Baudoin (1806–ar ôl 1870) â chaethes o'r enw Eugénie Sirette.[6] O ran hil ac ethnigrwydd felly, disgynnodd Jelly Roll Morton o dras gymysg, a fe arddelai hunaniaeth fel un o Greoliaid Louisiana.

Gyrfa gynnar[golygu | golygu cod]

Dysgodd y piano yn ifanc iawn, ac ymwelodd â bywyd nos New Orleans i wrando ar y gerddoriaeth yn y clybiau a'r honci-toncs. Cyfarfu â'r pianydd a chyfansoddwr Tony Jackson a cherddorion eraill yn yr ystafelloedd gefn, wedi i'r drysau gau, ac ymunodd wrth ganu a chwarae ar y pryd o oriau mân y bore hyd at y prynhawn. Dylanwadwyd arno'n gryf gan ragtime a'r felan-gân, a chlywodd hefyd sain dawns y gacen a cherddoriaeth boblogaidd gynnar America Ladin ac Ewrop yn ogystal â'r Unol Daleithiau. Ym 1902, pan oedd o bosib mor ifanc ag 11 oed, dechreuodd Morton ganu'r piano yn broffesiynol mewn puteindai yn Storyville, ardal golau coch a sefydlwyd gan gyngor New Orleans i reoleiddio puteindra yn y ddinas. Dywed iddo ennill $20 mewn cildyrnau ar ei noson gyntaf, swm sylweddol yn y dyddiau hynny.[1] Yn yr awyrgylch hwn, ac yntau nid eto yn ei arddegau, dysgodd Morton am gamblo a phechodau eraill bywyd yn ogystal â byd cerddoriaeth. Gwariodd ei arian ar ddillad newydd, ac wedi i'w deulu ddatgelu tarddiad ei incwm, cafodd ei fwrw allan o'r tŷ gan ei fodryb, rhag ofn iddo ddylanwadu'n ddrwg ar ei chiworydd.[1]

Jelly Roll Morton yn ei arddegau, oddeutu 1906.

Ar gychwyn ei arddegau, aeth Morton ar grwydr ar draws yr Unol Daleithiau, a ni dychwelodd erioed i New Orleans. Treuliodd gyfnodau yn Tulsa, Oklahoma, a Chicago, Illinois, ym 1904, cyn teithio i Mobile, Alabama, ym 1905, gan ennill arian yn chwarae pŵl, gamblo, a cherddora. Ym Memphis, Tennessee, ym 1908, gweithiodd ar y llwyfan fel digrifwr vaudeville, ac ym 1912 dechreuodd berfformio ar daith gyda McCabe's Minstrel Troubadours i St. Louis a Kansas City, Missouri.[1]

Cyfunodd Morton biano ragtime a'r felan-gân, gyda dylanwadau o gerddoriaeth Ffrengig a Sbaenaidd Louisiana, i greu arddull ei hun. Defnyddiodd rhythmau'r tresillo a'r habanera i ychwanegu "arsain Sbaenaidd" (Spanish tinge) at ei gyfansoddiadau cynnar megis "New Orleans Blues". Arloesodd hefyd ddilyniant cordiau'r stomp yn "King Porter Stomp", un o'r gweithiau pwysicaf yn natblygiad jazz, a ffurf gynnar ar swing gyda "Georgia Swing". Yn ddiweddarach, honnai Morton yn fynych taw efe wnaeth dyfeisio'r genre newydd ar ben ei hun, ar gychwyn ei yrfa ym 1902, a bathu'r term "jazz" yn ogystal. Er enghraifft, mewn llythyr i Robert Ripley ym 1938, i wffto'r honiad taw W. C. Handy oedd cychwynnwr jazz a stompiau, ysgrifennodd:

Y mae'n hysbys, a ni ellir gwrthddweud, taw New Orleans yw crudd y jazz, ac yr oeddwn i, fy hun, yn digwydd bod yn greadwr yr honno yn y flwyddyn 1902, flynyddoedd lawer cyn i'r Dixieland Band drefnu. Arddull, nid cyfansoddiadau, ydy cerddoriaeth jazz; gellir chwarae unrhyw fath o gerddoriaeth mewn jazz, os oes gan ddyn y wybodaeth i wneud hynny. Ysgrifennwyd y stomp gyntaf ym 1906, "King Porter Stomp." "Georgia Swing" oedd y cyntaf a elwir swing, ym 1907.[7]

Er y byddai'n gorddisgrifio ei rôl mewn hanes jazz, a denu dirmyg oddi wrth arloeswyr eraill y cyfnod ac hanesyddion cerddoriaeth am honni "dyfeisio jazz ym 1902", yn wir Morton oedd un o brif ddatblygwyr y genre, ac yn hanfodol wrth drawsnewid o jazz cynnar i jazz y gerddorfa. Ymwelodd Morton â Dinas Efrog Newydd am y tro cyntaf ym 1911, ac yno perfformiodd ei waith arloesol "Jelly Roll Blues". Yn Chicago ym 1915 cyhoeddwyd cerddoriaeth ddalen a drefnwyd ar gyfer cerddorfa o'r cyfansoddiad hwnnw, ac mae'n debyg taw dyna'r esiampl gyntaf o jazz gerddorfaol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) "Jelly Roll Morton" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 29 Awst 2023.
  2. (Saesneg) Peter Hanley, "WW1 Draft Registration Cards".
  3. Howard Reich a William Gaines, Jelly's Blues: The Life, Music, and Redemption of Jelly Roll Morton (Cambridge, Massachusetts: Da Capo Press, 2003), t. 271.
  4. Reich a Gaines, Jelly's Blues (2003), t. 14.
  5. Martin Williams, Jelly Roll Morton (Llundain: Cassell, 1962), tt. 7–8.
  6. (Saesneg) Peter Hanley, "Jelly Roll Morton: An Essay in Genealogy".
  7. (Saesneg) "Jelly Roll Morton: ‘I Created Jazz In 1902, Not W.C. Handy’" DownBeat. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Medi 2023. Dyfyniad gwreiddiol: "It is evidently known, beyond contradiction, that New Orleans is the cradle of jazz, and I, myself, happened to be creator in the year 1902, many years before the Dixieland Band organized. Jazz music is a style, not compositions; any kind of music may be played in jazz, if one has the knowledge. The first stomp was written in 1906, namely “King Porter Stomp.” “Georgia Swing” was the first to be named swing, in 1907."