Cildwrn
Data cyffredinol | |
---|---|
Math | Incwm ![]() |
![]() |
Arian a roddir yn wirfoddol i weithwyr yn y diwydiant trydyddol ar ben y gost derfynol am wasanaeth maent wedi ei berfformio yw cildwrn e.e. yr arian a roddir i wasanaethferch mewn tŷ bwyta.[1] Mae'r swm a roddir yn fater o ddefod gymdeithasol sy'n amrywio rhwng gwledydd ac yn ôl amgylchiadau. Mewn rhai llefydd, ystyrir rhoi cildwrn yn sarhaus; mewn llefydd eraill, fe'i disgwylir gan y cwsmer. Dan amgylchiadau penodol, fel gyda'r heddlu neu aelod o lywodraeth, mae rhoi, a hyd yn oed cynnig, cildwrn yn anghyfreithlon, ac yn gyfystyr â llwgrwobrwyaeth.
'Gweld rhywbeth yn rhannol' ydy ystyr 'cil', a chyfeirir yma at y drefn o hanner cuddio'r arian o fewn llaw caeedig.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ cildwrn. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Hydref 2014.