Jean-Joseph Sanfourche

Oddi ar Wicipedia
Jean-Joseph Sanfourche
Ganwyd25 Mehefin 1929 Edit this on Wikidata
Bordeaux Edit this on Wikidata
Bu farw13 Mawrth 2010 Edit this on Wikidata
Saint-Léonard-de-Noblat Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, cerflunydd, cynllunydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur Edit this on Wikidata

Arlunydd, bardd, dylunydd a cherflunydd Ffrengig oedd Jean-Joseph Sanfourche, a adweinir hefyd fel Sanfourche (25 Mehefin 192913 Mawrth 2010). Roedd yn aelod o grŵp o artistiaid y gelwid eu gwaith yn Art Brut ("celf amrwd").

Ganwyd Sanfourche yn Bordeaux, yn fab i'r arlunydd Arthur Sanfourche. Cafodd ei arestio ym 1942 gyda'i deulu gan y Gestapo. Dienyddiwyd Arthur, aelod y Résistance, ym 1943.[1] Rhyddhawyd Jean-Joseph a'i fam a symudon nhw i Limoges, lle mynychodd Sanfourche ysgol alwedigaethol. Enillodd brofiad mewn cerflunio a gwaith coed.

Ar ôl graddio o'r ysgol uwchradd, astudiodd gyfrifeg. Symudodd i Baris, lle gweithiodd fel cyfarwyddwr technegol ffatri tecstilau ac yna fel swyddog yn y Weinyddiaeth Materion Tramor. Ymddiswyddodd o'r swydd hon oherwydd salwch difrifol gyda dallineb mewn un llygad. Ar ôl iddo ddychwelyd i Limoge gweithiodd fel peintiwr amryddawn, cerflunydd, arlunydd graffig a bardd.

Yn 1992 fe'i urddwyd yn Farchog y Légion d'honneur gan François Mitterrand.

Gellir gweld ei weithiau mewn nifer o amgueddfeydd, gan gynnwys y Collection de l’Art Brut (Lausanne), Musée d'Art Moderne (Paris) a’r Palais des Beaux-Arts (Brwsel).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "SANFOURCHE Arthur, Jean, Joseph", Gwefan Les Fusillés 1940–1944; adalwyd 6 Chwefror 2021
Baner FfraincEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.