Jason Mraz
Jason Mraz | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Jason Thomas Mraz ![]() 23 Mehefin 1977 ![]() Mechanicsville, Virginia ![]() |
Label recordio | Atlantic Records, Elektra Records ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gitarydd, canwr, cyfansoddwr, mandolinydd ![]() |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, roc poblogaidd, blue-eyed soul, reggae, roc amgen, alternative hip hop, ffwnc, jazz, surf music ![]() |
Gwefan | https://www.jasonmraz.com/ ![]() |
Canwr gyfansoddwr Americanaidd yw Jason Mraz (ganwyd 23 Mehefin 1977), o Mechanicsville, Virginia, Unol Daleithiau. Mae ei ddylanwadau arddulliadol yn cynnwys reggae, pop, roc, cerddoriaeth gwerin, jazz a hip hop.
Rhyddhaodd Mraz ei albwm cyntaf, "Waiting for My Rocket to Come" yn 2002, ond ar ôl ei ail albwm Mr. A-Z enillodd lwyddiant masnachol. Aeth yr albwm i rhif 5 yn y Billboard Hot 200, a gwerthodd dros gan mil o gopiau yn yr Unol Daleithiau. Yn 2008, rhyddhaodd Mraz ei drydydd albwm stiwdio, "We Sing. We Dance. We Steal Things.". Aeth yr albwm yn syth i rhif 3 yn y Billboard 200, ac roedd yn llwyddiannus ledled y byd.
Daeth i amlygrwydd gyda rhyddhad o "I'm Yours", y brif sengl o "We Sing. We Dance. We Steal Things". Man uchaf y sengl ar y Billboard Hot 100 oedd rhif 6, a chafodd Mraz ei sengl cyntaf yn y deg uchaf. Roedd y gân yn llwyddiant masnachol yn yr Unol Daleithiau, gan gipio tair tystysgrif Platinwm o'r RIAA am werthiant o dros dair miliwn. Bu'n gân yn llwyddiannus yn rhyngwladol hefyd ac aeth i frig y siart yn Seland Newydd a Norwy a chan gyrraedd y deg uchaf mewn nifer o siartiau rhyngwladol.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Mraz o dras Tsiec oherwydd symudodd ei dadcu i'r Unol Daleithiau o'r hyn a arferai fod yn y Weriniaeth Tsiec ym 1915. Yn yr iaith Tseic, golyga ei gyfenw "rhew". Mae Mraz hefyd yn fegan.
Mynychodd Mraz "Yr Academi Cerdd a Drama" yn Ninas Efrog Newydd am gyfnod byr, gan astudio theatr gerdd cyn iddo symud i San Diego.
Mae Mraz yn berchen ar fferm afocado yng ngogledd San Diego County ger Fallbrook.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol
- Casgliad Jason Mraz yn archifdy cerddoriaeth byw Archifdy'r Rhyngrwyd
- Rhestr chwarae: Jason Mraz – Nightline 07/17/09 – Reggae i rock, esbonia Mraz ei ddylanwadau cerddorol.