Jane Espenson

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jane Espenson
Portrait of Jane Espenson.jpg
Ganwyd 14 Gorffennaf 1964 Edit this on Wikidata
Ames Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Califfornia, Berkeley
  • Ames High School Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Sgriptiwr, Ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.janeespenson.com/ Edit this on Wikidata

Awdures Americanaidd yw Jane Espenson (ganwyd 14 Gorffennaf 1964) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel sgriptiwr ac awdur.

Fe'i ganed yn Ames, Iowa ar 14 Gorffennaf 1964. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Califfornia, Berkeley. [1][2]

Mae Espenson wedi gweithio ar gomedïau sefyllfa a dramâu cyfresol. Cafodd bum mlynedd fel awdur a chynhyrchydd ar Buffy the Vampire Slayer a rhannodd Wobr Hugo am ei hysgrifennu ar y bennod "Conversations with Dead People." O 2006–2010, gweithiodd Espenson ar Battlestar Galactica a llawer o'r gwaith dilynnol. Rhwng 2009 a 2010 bu'n gwasanaethu ar Caprica, fel cyd-weithredwr a chynhyrchydd gweithredol y gyfres deledu. Yn 2010, ysgrifennodd bennod o Game of Thrones (HBO), ac ymunodd â'r staff ysgrifennu ar gyfer pedwerydd tymor rhaglen deledu Torchwood, a ddarlledodd BBC One yn y Deyrnas Gyfunol a 'Starz' yn yr Unol Daleithiau yn ystod canol 2011.

Bu hefyd yn gweithio ar gyfres ABC, sef Once Upon a Time, a bu'n rhan o Husbands, Brad Bell.

Magwraeth a choleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i magwyd yn Ames, Iowa lle mynychodd Ames High School.

Tra'n astudio gwyddoniaeth cyfrifiadurol ac ieithyddiaeth ym Mhrifysgol California, Berkeley, dechreuod ddanfon sgriptiau ar gyfer Star Trek: The Next Generation, fel rhan o'i chwrs.

Yn ei harddegau, cafodd Espenson wybod bod M * A * S * H ​​yn derbyn drafft-sgriptiau heb addewid o daliad neu waith yn y dyfodol. Er nad oedd yn awdur sefydledig ar y pryd, bwriadodd ysgrifennu ei phennod gyntaf: "Roedd yn drychineb. Wnes i erioed ei anfon. Doeddwn i ddim yn gwybod y fformat cywir. Doeddwn i ddim yn gwybod y cyfeiriad ble i anfon, ac wedyn roeddwn i'n meddwl, dydyn nhw ddim wir yn gallu fy llogi tan i mi orffen yn yr ysgol iau, beth bynnag."[3]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14096344g; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, dynodwr VIAF 70898385, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018Wikidata Q54919 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14096344g; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Kelly, Suzanne. "Jane Espenson: Writer, sci-fi thriller, one nerdy lady". CNN. Cyrchwyd 28 Ionawr 2011.