James Rhys Parry (Eos Eyas)
James Rhys Parry | |
---|---|
Ganwyd |
1570 ![]() |
Bu farw |
1625 ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
bardd ![]() |
Plant |
George Parry ![]() |
Bardd a chyfieithydd oedd James Rhys Parry (1570 - 1625), a adnabyddir hefyd wrth ei enw barddol Eos Eyas.
Ychydig a wyddys am ei fywyd personol. Roedd yn un o ddisgynyddion y teulu Parry o Poston, Swydd Henffordd.[1] Yn yr Oesoedd Canol roedd y rhan honno o Swydd Henffordd yn rhan o gwmwd ac arglwyddiaeth Ewias a oedd yn cynnwys hefyd rhan o Went a chyfeiria ei enw barddol at yr ardal (mae Eyas yn ffurf hynafiaethol).
Cyfansoddodd Eos Eyas fersiwn mydryddol o Salmau Dafydd rywbryd cyn tua 1620. Cyflwynwyd y cerddi hyn ynghyd â llawysgrifau eraill yr awdur i'r Esgob William Morgan yn ei gyfnod fel Esgob Llandaf. Ymddengys fod yr esgob wedi dangos cyfieithiad Eos Eyas o'r Salmau i Edmwnd Prys, Archddiacon Meirionnydd, cyn i hwnnw gyhoeddi ei gyfrol Salmau Cân yn 1621.[1]
Roedd mab Eos Eyas, George Parry, yn fardd hefyd. Ysgrifenodd yntau fersiwn o'r Salmau tua'r flwyddyn 1649.[1]