Jacob van Ruisdael

Oddi ar Wicipedia
Jacob van Ruisdael
GanwydJacob Isaackszoon Van Ruisdael Edit this on Wikidata
1628 Edit this on Wikidata
Haarlem Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mawrth 1682, 14 Mawrth 1682, 14 Mehefin 1682 Edit this on Wikidata
Haarlem Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd
Galwedigaetharlunydd, gwneuthurwr printiau, paentiwr tirluniau, ysgythrwr, arlunydd graffig, drafftsmon Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCastell Bentheim, Mynwent yr Iddewon, Llafn o Olau, Melin Wynt yn Wijk bij Duurstede Edit this on Wikidata
Arddullcelf tirlun Edit this on Wikidata
Mudiadpaentiadau Baróc Edit this on Wikidata
TadIsaack van Ruisdael Edit this on Wikidata
PerthnasauJacob Salomonsz van Ruysdael, Salomon van Ruysdael Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Jacob Isaackszoon van Ruisdael (Ynganiad Iseldireg: [ˈjaːkɔp vɑn ˈrœysdaːl] (Ynghylch y sain ymagwrando); c. 162910 Mawrth 1682) yn un o gewri 'Oes Aur Paentio yn yr Iseldiroedd'. Roedd hefyd yn arlunydd hynod o doreithiog a allai addasu i'w amgylchiadau, ond arbenigai mewn tirluniau.

Roedd tri o'i deulu'n arlunwyr deheuig, gan gynnwys ei dad Isaack van Ruisdael, ei ewyrth adnabyddus Salomon van Ruysdael a'i gefnder a alwyd hefyd yn Jacob Salomonsz van Ruysdael. Nid yw pob llun o'r cyfnod wedi'i arwyddo, na'i ddyddio, a gall adnabod perchnogaeth rhai o'r lluniau fod yn faen tramgwydd i'r beirniad celf.[1]

O 1646 ymlaen, tirluniau o'r Iseldiroedd oedd thema'r rhan fwyaf o baentiadau Ruisdael, a'r rheiny o safon uchel. Yna daeth cyfnod o ddylanwad Almaenig, wedi iddo ymweld â'r wlad honno, gyda'r paentiadau'n fwy 'arwrol'. Ar ddiwedd ei oes, wrth weithio o Amsterdam, cafwyd tirluniau mwy dinesig eu naws a golygfeydd glan y môr, lle roedd yr awyr yn aml yn cymryd dros ddau draean o'r llun. Ei unig ddisgybl nodedig y gwyddom amdano oedd Meindert Hobbema.

Ychydig iawn y teithiodd, gyda'r rhan fwyaf o'i waith yn yr Iseldiroedd a'r Almaen,[2] ac er bod ganddo nifer o dirluniau o Norwy, nid oes tystiolaeth iddo erioed deithio yno.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Union list of artist names". J. Paul Getty Trust. Cyrchwyd 24 Hydref 2015.
  2. "Jacob van Ruisdael in the RKD (Netherlands Institute for Art History)". Netherlands Institute for Art History. Cyrchwyd 8 October 2015.
  3. Slive 2001, t. 153.