John Puleston Jones

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth J. Puleston Jones)
Neidio i: llywio, chwilio
John Puleston Jones
Ganwyd 26 Chwefror 1862 Edit this on Wikidata
Bu farw 21 Ionawr 1925 Edit this on Wikidata (62 oed)
Gwaith Gweinidog, awdur, diwinydd edit this on wikidata

Llenor Cymraeg a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd oedd John Puleston Jones (26 Chwefror 186221 Ionawr 1925), y cyfeirir ato hefyd fel "Puleston".[1] [2]

Ganwyd Puleston yn Llanbedr Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych. Aeth yn ddall pan yn blentyn ifanc ond llwyddodd i ofalu drosto'i hun a chyrhaedd Prifysgol Rhydychen lle bu'n un o sefydlwyr Cymdeithas Dafydd ap Gwilym. Safodd gyda John Morris-Jones o blaid safoni orgraff yr iaith Gymraeg. Ysgrifenodd sawl traethawd a phregeth i'r cylchgronau a gyhoeddwyd yn nes ymlaen.

Cofir am Puleston hefyd fel dyfeisydd y system braille Cymraeg, cyfundrefn sy'n dal i gael ei defnyddio heddiw.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Gair y Deyrnas (1924). Pregethau.
  • Ysgrifau Puleston (1926)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
  2. "JONES, JOHN PULESTON ( 1862 - 1925 )", Y Bywgraffiadur Cymreig, gan Y Parch. Robert Richard Hughes, (1953-54) ;  [http://yba.llgc.org.uk/cy/c-JONE-PUL-1862.html]


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.