John Puleston Jones
| John Puleston Jones | |
|---|---|
| Ganwyd | 26 Chwefror 1862 Llanbedr Dyffryn Clwyd |
| Bu farw | 21 Ionawr 1925 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr, diwinydd |
| Adnabyddus am | Braille |
Llenor Cymraeg a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd oedd John Puleston Jones (26 Chwefror 1862 – 21 Ionawr 1925), y cyfeirir ato hefyd fel "Puleston".[1][2]
Ganwyd Puleston yn Llanbedr Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych. Aeth yn ddall pan yn blentyn ifanc ond llwyddodd i ofalu drosto'i hun. Gydag O.M. Edwards aeth i Brifysgol Glasgow am flwyddyn (1883-84) i astudio athroniaeth, cyn mynd i Goleg Balliol, Rhydychen, i ddarllen hanes (1884-88): yno graddiodd yn y dosbarth cyntaf.[2]
Yn Rhydychen bu'n un o'r saith a sefydlodd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym (1886). Safodd gyda John Morris-Jones o blaid safoni orgraff yr iaith Gymraeg. Pleidiodd ac ysgrifennodd Gymraeg naturiol - 'Gymraeg Cymreig'. Ysgrifennodd sawl traethawd a phregeth i'r cylchgronau a gyhoeddwyd yn nes ymlaen. Dywedodd John Morris-Jones amdano (yn 1924): ‘Gellir ei gyfrif ymysg meistriaid iaith ei dadau heddiw."[2]
Ordeiniwyd ef yn 1888. Bu'n weinidog i eglwys Saesneg Princes Road, Bangor (1888-1895), eglwysi Dinorwig a'r Fachwen ar fin chwarel Dinorwig (1895-1907), Pen Mount, Pwllheli (1907-18), a Llanfair Caereinion, Powys (1918-23).[2]
Safodd yn gadarn ac yn eglur yn erbyn y rhyfel mawr cyntaf - cyfrannodd i gylchgrawn yr heddychwyr,Y Deyrnas,a phregethodd yn erbyn y rhyfel o'r pulpud. Ef oedd arweinydd heddychwyr ei enwad yn y Gogledd.[2]
Cofir am Puleston hefyd fel dyfeisydd y system Braille Cymraeg, cyfundrefn sy'n dal i gael ei defnyddio heddiw.[1][2]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Gair y Deyrnas (1924). Pregethau.
- Ysgrifau Puleston (1926)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestr awduron Cymraeg (1600–heddiw)
- Parri, Harri Cannwyll yn Olau: Stori John Puleston Jones (2018)