John Griffith Williams

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o J.G. Williams)
John Griffith Williams
Ganwyd1915 Edit this on Wikidata
Llangwnnadl Edit this on Wikidata
Bu farw1987 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwrthwynebydd cydwybodol, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Llenor yn yr iaith Gymraeg oedd John Griffith Williams neu J.G. Williams (1915 - 1987), a aned yn Llangwnadl yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Saer coed oedd o wrth ei grefft. Gadawodd yr ysgol yn bymtheg oed a mynd i weithio fel prentis ar stad y Gwynfryn a Thalhenbont. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd hyfforddodd yn athro yng Ngholeg yr Heath, Caerdydd. Ar ôl cyfnodau byr mewn ysgolion yng Nghaerdydd a'r Trallwng fe'i penodwyd yn athro Gwaith Coed a Metel yn Ysgol Ramadeg Pwllheli yn 1952, ac yno y bu tan ei ymddeoliad yn 1976.

Llenor ei fro yw J.G. Williams yn anad dim, ond mae ei fro yn cynnwys holl ramant hanes Cymru a rhyfeddodau natur. Ei lyfr mwyaf adnabyddus yw'r hunangofiant telynegol Pigau'r Sêr (1969), sy'n digrifio ei blentyndod yn Llŷn ac Eifionydd a'r bywyd ar y stad wledig drwyadl Gymraeg.

Cafodd yr awdur ei garcharu yn ystod yr Ail Ryfel Byd am, yn ei eiriau ei hun yn ei gyfrol Maes Mihangel (1974), "wrthod cydnabod hawl Llywodraeth Lloegr i osod gorfodaeth filwrol ar Gymru."[1]

Mae ei nofel hanesyddol Betws Hirfaen (1978) yn adrodd helyntion dyn ifanc o Eifionydd yng nghyfnod Owain Glyndŵr, pan losgwyd castell Cricieth. Cyhoeddodd yn ogystal astudiaeth gymharol o fersiynau gwahanol o Rubayat Omar Khayyam.

Roedd hefyd yn arlunydd medrus ac ef a luniodd gloriau chwech o gyfrolau Islwyn Ffowc Elis, yn eu plith Cysgod y Cryman, yn ogystal â'r lluniau yn Cyn Oeri'r Gwaed.

Brawd iddo oedd Robin Williams.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Pigau'r Sêr (Gwasg Gee, Dinbych, 1969)
  • Maes Mihangel (Gwasg Gee, Dinbych, 1974)
  • Betws Hirfaen (Gwasg Gee, Dinbych, 1978)
  • Omar (1981)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Maes Mihangel (Gwasg Gee, Dinbych, 1974).