Ivana Brlić-Mažuranić
| Ivana Brlić-Mažuranić | |
|---|---|
| Ganwyd | Ivana Mažuranić 18 Ebrill 1874 Ogulin |
| Bu farw | 21 Medi 1938 Zagreb |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, awdur plant |
| Adnabyddus am | The Brave Adventures of Lapitch, Croatian Tales of Long Ago, Stribor's Forest |
| Prif ddylanwad | Hans Christian Andersen |
| Tad | Vladimir Mažuranić |
| Perthnasau | Ivan Mažuranić |
| Gwobr/au | star on Croatian Walk of Fame |
Awdures o Awstria-Hwngari ac Iwgoslafia (Croatia heddiw) oedd Ivana Brlić-Mažuranić (18 Ebrill 1874 - 21 Medi 1938) sy'n cael ei hystyried yn rhyngwladol yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, ac awdur plant - y gorau o Croatia. Enwebwyd Brlić-Mažuranić ar gyfer y Wobr Nobel Lenyddol bedair gwaith - yn 1931 a 1935 cafodd ei henwebu gan yr hanesydd Gabriel Manojlović, ac yn 1937 a 1938 ymunodd yr athronydd Albert Bazala i gynnig ei henw.[1][2]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yn Ogulin ar 18 Ebrill 1874 i deulu Croateg adnabyddus Mažuranić. Roedd ei thad Vladimir Mažuranić yn awdur, cyfreithiwr a hanesydd a ysgrifennodd Prinosi za hrvatski pravno-povjestni rječnik, y geiriadur Croateg ar gyfer hanes a chyfraith, yn 1882. Ei thaid oedd y gwleidydd enwog, y bardd Croateg Ivan Mažuranić, tra roedd ei nain Aleksandra Mažuranić yn chwaer i Dimitrija Demeter, awdur adnabyddus ac un o brif bobl y mudiad adfywio cenedlaetholdeb Croateg. Cafodd Ivana ei haddysgu gartref yn bennaf. Gyda'i theulu, symudodd yn gyntaf i Karlovac, yna i Jastrebarsko, gan ddiweddu ei hoes yn Zagreb.[3][4][5][6][7]
Ar ôl priodi Vatroslav Brlić, gwleidydd a chyfreithiwr blaenllaw o deulu bonheddig, yn 1892, symudodd i Brod na Savi (Slavonski Brod heddiw) a bu'n byw yno am y rhan fwyaf o'i bywyd. Daeth yn fam i chwe phlentyn a rhoddodd ei holl waith i'w theulu a'i haddysg. Ysgrifennodd ei chreadigaethau llenyddol cyntaf yn Ffrangeg.
Bu farw yn Zagreb ac fe'i claddwyd ym Mynwent Mirogoj, Zagreb.
Gweithiau llenyddol
[golygu | golygu cod]
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Brave Adventures of Lapitch, Croatian Tales of Long Ago a Stribor's Forest.[8]
Dechreuodd Ivana Brlić-Mažuranić ysgrifennu barddoniaeth, dyddiaduron a thraethodau yn gynnar, ond ni chyhoeddwyd ei gweithiau tan ddechrau'r 20g. Cyhoeddodd straeon ac erthyglau, fel y gyfres o erthyglau addysgol dan yr enw Ysgol a Gwyliau yn rheolaidd o 1903 ymlaen.
Y llyfr cyntaf i ddod a sylw cenedlaethol iddi, fodd bynnag, oedd Anturiaethau Dewr Lapitch y Prentis, yn 1913. Yn y stori, mae'r prentis anobeithiol Hlapić, yn ddamweiniol, yn canfod merch goll ei feistr, a daw hyn a llygedyn o obaith i'w fywyd.
Ei llyfr Chwedlau Croatiaid yr Hen Fyd (Priče iz davnine; 1916) a sgwennwyd yn bennaf i blant yw ei llyfr enwocaf a mwyaf poblogaidd heddiw yn bennaf oherwydd iddo gael ei gyfieithu a'i addasu fel ffuglen ryngweithiol ar gyfer y cyfrifiadur, gan Helena Bulaja yn 2003/2006. Yn y llyfr creodd Mažuranić gyfres o straeon tylwyth teg newydd, gan ddefnyddio enwau a motiffau o chwedloniaeth Slafeg-Croat. A thros nos, fe'i cymharwyd gyda Hans Christian Andersen a Tolkien.[9] Ysgrifennodd hefyd straeon cwbl newydd ond wedi'u seilio ar rai elfennau o chwedloniaeth go iawn.
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o Academi Gwyddorau a Chelfyddydau Croatia am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: star on Croatian Walk of Fame (2007) .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Nomination Database – Literature (1931)". Nobelprize.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-19. Cyrchwyd 17 Chwefror 2011.
- ↑ "Nomination Database – Literature (1935)". Nobelprize.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-19. Cyrchwyd 17 Chwefror 2011.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Ivana Brlic-Mazuranic". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ivana Brlic". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ivana Brlic-Mazuranic". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ivana Brlić-Mažuranić". "Ivana Brlić-mažuranić".
- ↑ Dyddiad marw: "Ivana Brlic-Mazuranic". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ivana Brlic". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ivana Brlic-Mazuranic". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ivana Brlić-Mažuranić". "Ivana Brlić-mažuranić".
- ↑ Man claddu: https://www.gradskagroblja.hr/trazilica-pokojnika/15. dyddiad cyrchiad: 7 Chwefror 2024.
- ↑ Worldwide Fairytale Adventure Croatian Tales of Long Ago Archifwyd 22 Tachwedd 2010 yn y Peiriant Wayback
- ↑ Edward Picot. "Twice Told Tales" Archifwyd 2013-08-11 yn y Peiriant Wayback at The Hyperliterature Exchange. "During her own lifetime Mazuranic was known as "the Croatian Andersen". The Bulajas, in one of their notes on her work, make the counter-claim that she should be regarded as "the Croatian Tolkien" instead, and they present several pieces of evidence for this case.."
]