Iolo Ceredig Jones
Jump to navigation
Jump to search
Iolo Ceredig Jones | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
2 Awst 1947 ![]() Llandysul ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
chwaraewr gwyddbwyll, ysgrifennwr ![]() |
Tad |
T. Llew Jones ![]() |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon |
Cymru ![]() |
Cyn-chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol Cymreig yw Iolo Ceredig Jones (ganwyd 2 Awst 1947).[1] Ef yw cyd-awdur yr unig lawlyfr gwyddbwyll yn y Gymraeg, A chwaraei di wyddbwyll?, a ysgrifennodd gyda'i dad, T. Llew Jones. Cystadlodd Jones mewn 16 Olympiad Gwyddbwyll, gan chwarae mewn 14 yn olynol rhwng 1972 ac 1998. Enillodd y fedal aur am ei berfformiad yn Olympiad Novi Sad, Yugoslavia, ym 1990. Bu hefyd yn gyd-bencampwr Cymru ym 1982-3. Yn 2013 derbyniodd y teitl Meistr FIDE (FM) sydd fel arfer yn cael ei roi gan FIDE i chwaraewyr sy'n ennill gradd ELO o 2300 neu fwy.
Mae hefyd yn frawd i'r ymgyrchydd gwleidyddol, Emyr Llewelyn.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Iolo Ceredig Jones, archif o'i emau. New In Chess.