Interlingua

Oddi ar Wicipedia
Interlingua
Enghraifft o'r canlynolIaith artiffisial, iaith gynorthwyol ryngwladol Edit this on Wikidata
CrëwrInternational Auxiliary Language Association, Alexander Gode Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1951 Edit this on Wikidata
Enw brodorolInterlingua Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 1,500 (2000)
  • cod ISO 639-1ia Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-2ina Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3ina Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuInterlingua alphabet, yr wyddor Ladin Edit this on Wikidata
    Corff rheoleiddioInternational Auxiliary Language Association Edit this on Wikidata
    Gwefanhttp://www.interlingua.com/ Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    Peidiwch â chymysgu yr iaith hon ag Interlingue, sy'n iaith artiffisial wahanol.

    Iaith ryngwladol sy'n defnyddio geiriau mwyaf cyffredin Lladin, Eidaleg, Sbaeneg, Portiwgaleg, Ffrangeg a Saesneg yw Interlingua. Y canlyniad yw Lladin modern syml.

    Y gwahaniaeth rhwng Interlingua ac Esperanto yw bod geiriau Esperanto wedi eu creu yn ôl rheolau'r iaith a dim ond y rhai sydd wedi dysgu'r iaith sy'n ei deall. Dydy geiriau Interlingua ddim wedi eu creu. Roedden nhw'n bodoli'n barod. Y canlyniad yw bod unrhyw un sy'n medru dwy iaith Ewropeaidd yn deall 80% neu 90% o Interlingua yn barod, heb ddysgu dim ohoni. Fe fydd yr Eidalwyr, y Sbaenwyr a'r Portiwgalwyr yn deall Interlingua heb ddim trafferth. Iddyn nhw fe fydd yn swnio fel tafodiaith o'u hiaith eu hunain.

    Ymadroddion cyffredin[golygu | golygu cod]

    • Hello! : Helô!
    • Bon die! : Bore/p'nawn da!
    • Como sta vos? : Sut ydych chi?
    • Como sta tu? : Sut wyt ti?
    • Multo ben! : Da iawn!
    • Benvenite! : Croeso!
    • Excusa me! / Perdon! : Esgusodwch fi!
    • Per favor! : Os gwelwch chi'n dda!
    • Gratias! : Diolch!
    • Si : Ie/do/oes ayyb.
    • No : Na

    Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

    Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

    Dolenni[golygu | golygu cod]

    Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

    Wikipedia
    Wikipedia
    Argraffiad Interlingua Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
    Chwiliwch am Interlingua
    yn Wiciadur.