Inge Viett

Oddi ar Wicipedia
Inge Viett
FfugenwIntissar Edit this on Wikidata
Ganwyd12 Ionawr 1944 Edit this on Wikidata
Barsbüttel Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mai 2022 Edit this on Wikidata
Falkensee Edit this on Wikidata
Man preswylHamburg, Wiesbaden, Eisenbahnstraße, Georg-von-Rauch-Haus, Paris, Aden Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethterfysgwr, ysgrifennwr, hunangofiannydd Edit this on Wikidata

Awdures o'r Almaen yw Inge Viett (ganwyd 12 Ionawr 1944; m. 9 Mai 2022) a ystyrir gan rai pobl yn y Gorllewin yn derfysgwr.

Mae'n gyn-aelod o nifer o fudiadau milwriaethus asgell chwith Gorllewin yr Almaen gan gynnwys "Mudiad 2 Mehefin" a "Charfan y Fyddin Goch" a elwir hefyd yn 'Grŵp Baader–Meinhof' (Almaeneg: Baader-Meinhof-Gruppe; ymunodd ym 1980). Ym 1982 hi oedd yr olaf o ddeg cyn-aelod o Garfan y Fyddin Goch a ddihangodd o'r Gorllewin i Ddwyrain yr Almaen a derbyniodd gefnogaeth gan awdurdodau'r wladwriaeth gan gynnwys y Weinyddiaeth Diogelwch y Wladwriaeth.[1]

Fe'i ganed yn Barsbüttel, Schleswig-Holstein, yr Almaen ar 12 Ionawr 1944.[2][3]

Ar ôl uno'r Almaen, fe'i cafwyd yn euog o geisio llofruddiaeth, cafodd ei dedfrydu i garchar am 13 blynedd, ond fe'i rhyddhawyd yn gynnar ym 1997, ac erbyn hynny roedd wedi cyhoeddi ei llyfr cyntaf. Fe'i disgrifiwyd gan rai fel "terfysgwr wedi ymddeol", mae'n wahanol i eraill o gyfnod terfysgol Gorllewin yr Almaen yn y 1970au oherwydd iddi fod yn barod i siarad am y digwyddiadau hynny o safbwynt y gweithredwr. Mae ei chyfranogiad mewn gwrthdystiadau stryd ac absenoldeb ymddangosiadol o ran ei hymwneud â militariaeth asgell chwith yn parhau i ddenu diddordeb y cyfryngau (2019).[4][5][6][7]

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Stemwarde, ychydig i'r dwyrain o Hamburg, ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, yn y rhan a hawliwyd gan Loegr. Dywedir i'r awdurdodau ei chymeryd oddi wrth ei mam rhwng 1946 a 1950 a bu'n byw mewn cartref i blant amddifad yn Schleswig-Holstein. Ym Mawrth 1950 symudwyd hi at deulu maeth, ond disgria ymdrech y teulu fel un "anodd a llafurus" ("sehr belastend").[8]

Roedd yn fwy llawdrwm o'r trigolion lleol; cafodd ei threisio gan ffermwr lleol, a rhedodd i ffwrdd pan oedd yn 15 oed. Yn Arnis, cafodd rhywfaint o addysg mewn sefydliad i bobl ifanc, a rhoddodd ei bryd ar fod yn hyfforddwraig chwaraeon. Gwrthododd yr awdurdodau hyn, gan ei gorfodi i ddilyn cwrs ar fagu plant a chadw tŷ a disgrifiodd y profiad fel un erchyll ("gräßlich"). Ceisiodd ladd ei hun i warchod plant teulu eitha llewyrchus, lle roedd y tad yn llawer rhy awdurdodol.

O'r diwedd, yn 1963, dechreuodd ar gwrs chwaraeon a gymnasteg ym Mhrifysgol Kiel, ond ychydig cyn graddio, gadawodd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Wolfgang Gast (22 Gorffennaf 2008). "Revolutionärin in der Warteschleife". Beim Protest gegen das öffentliche Gelöbnis der Bundeswehr wurde Inge Viett kurzzeitig festgenommen. Die 64-jährige hat dem Terrorismus den Rücken gekehrt. Ruhe gibt sie noch lange nicht. taz Verlags u. Vertriebs GmbH, Berlin. Cyrchwyd 26 Awst 2017.
  2. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 23 Mehefin 2015
  3. Dyddiad geni: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 14 Awst 2015. "Inge Viett". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.stasi-mediathek.de/medien/auskunftsbericht-ueber-die-raf-terroristin-inge-viett/blatt/178/.
  4. Charity Scribner (author); Uta Staiger (compiler-editor); Henriette Steiner (compiler-editor); Andrew Webber (compiler-editor) (29 Hydref 2009). Paradise for provocation: Plotting Berlin's Political Underground - The RAF goes east. Memory Culture and the Contemporary City: Building Sites. Palgrave Macmillan UK. t. 167. ISBN 978-0-230-24695-9.
  5. Bruno Schrep (8 Medi 1997). ""Die Nächte sind schlimm"". Polizisten, die im Dienst von Terroristen niedergeschossen wurden, gehören zu den vergessenen Opfern des bewaffneten RAF-Kampfes gegen den Staat. Die Kugeln töteten, zerstörten Familien und Karrieren. Der Spiegel (online). Cyrchwyd 26 Awst 2017.
  6. Jörn Hasselmann (5 Awst 2011). "Ex-Terroristin Viett im Visier der Justiz". Die Staatsanwaltschaft prüft derzeit, ob die Ex-Terroristin Inge Viett wegen ihrer Aussagen auf der Rosa-Luxemburg-Konferenz am Sonnabend strafrechtlich verfolgt wird. Der Innensenator spricht von einem Aufruf zu "kämpferischer Praxis". Tagesspiegel, Berlin. Cyrchwyd 26 Awst 2017.
  7. Miriam Hollstein (23 Tachwedd 2011). "Bizarrer Auftritt einer unbelehrbaren RAF-Rentnerin". WeltN24 GmbH, Berlin. Cyrchwyd 26 Awst 2017.
  8. "Nie war ich furchtloser" ("I was never free from fear"): Autobiography. Edition Nautilus, Hamburg 1997, ISBN 3-89401-270-6. Rowohlt Taschenbuchverlag Reinbek 1999, ISBN 3-499-60769-7); tt. 18, 45, 53-61, 68, 80-86, 91-94, 107, 202, 256, 263, 307-326