Ieuan Gwynedd Jones

Oddi ar Wicipedia
Ieuan Gwynedd Jones
Ganwyd7 Gorffennaf 1920 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mehefin 2018 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethacademydd, hanesydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Hanesydd o Gymro oedd yr Athro Emeritws Ieuan Gwynedd Jones (7 Gorffennaf 192029 Mehefin 2018) [1][2]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Fe'i magwyd yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn fab i löwr. Roedd ei fam yn hannu o Wynedd gan roi ei enw canol iddo a roedd ganddo un brawd, Simeon. Mynychodd Ysgol Ramadeg Pen-y-bont ar Ogwr ac er ei fod yn fachgen disglair, roedd rhaid iddo adael yr ysgol yn 14 oed i ennill cyflog. Bu'n forwr am flynyddoedd cyn i'w iechyd dorri a gweithiodd hefyd fel dyn signal ar y rheilffordd ym Mhontardawe.

Ar ôl Yr Ail Ryfel Byd ail-gydiodd yn ei addysg a chafodd radd cyntaf mewn Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe yna MA a chymrodoriaeth ymchwil yn Peterhouse, Caergrawnt.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cafodd swydd yn Adran Hanes Prifysgol Cymru Abertawe, gan weithio gyda rhai o haneswyr pwysig eraill yn cynnwys Glanmor Williams, K.O. Morgan, Gwyn Alf Williams, John Davies a Ralph Griffiths.

Ar ddiwedd yn 1960au fe'i benodwyd i Gadair Syr John Williams fel Athro Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cafodd ei urddo'n Gymrawd Prifysgol Aber yn Ngorffennaf 2010.[2]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod a Maisie, oedd yn enedigol o Gwm Tawe. Roedd ganddynt un mab, Alun. Treuliodd rhan fwyaf o'i fywyd yn Aberystwyth. Bu farw yn Ysbyty Bronglais ar ddydd Gwener 29 Mehefin 2018.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Marw un o haneswyr mwya’ Cymru , Golwg360, 6 Gorffennaf 2018.
  2. 2.0 2.1  Yr Athro Emeritws Ieuan Gwynedd Jones. Prifysgol Aberystwyth (13 Gorffennaf 2010). Adalwyd ar 5 Gorffennaf 2018.