Hwyatbig
Gwedd
| Hwyatbig | |
|---|---|
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Monotremata |
| Teulu: | Ornithorhynchidae |
| Genws: | Ornithorhynchus Blumenbach, 1800 |
| Rhywogaeth: | O. anatinus |
| Enw deuenwol | |
| Ornithorhynchus anatinus (Shaw, 1799) | |
| Cynefin yr hwyatbig (mewn graddliw) | |
Mamal cyfandroed lled-ddyfrol gyda chynffon lydan fflat a thrwyn cnodiog yn debyg i big hwyaden yw'r hwyatbig. Mae'n frodorol i ddwyrain Awstralia ac ynys Tasmania. Un o'r pum rhywogaeth gyfoes o'r monotremiaid yw'r hwyatbig, ynghyd â'r pedair rhywogaeth o echidna, sef yr unig mamaliaid sy'n dodwy wyau yn hytrach na rhoi genedigaeth i epil byw.
Enw
[golygu | golygu cod]Bathwyd y term hwytbig yn 1866 dan ddylanwad y gair Saesneg duck-billed (platypus). Defnyddiwyd enwau Cymraeg eraill ar y pryd hefyd, gan gynnwys adarbig ac aderyndrwyn. Gwelir y gair platypws hefyd yn Gymraeg, a ddaw yn y pen draw o'r Hen Roeg πλατύπους, sydd â'r ystyr "troed wastad".[1]