Hugh Owen (yr Hynaf)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfieithydd oedd Hugh Owen (tua 1575-1642). Roedd yn ewyrth i William Griffith, D.C.L, canghellor Bangor a Llanelwy [q.v.], a George Griffith, D.D. esgob Llanelwy.

Y dyddiau cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Owen tua 1575 yn Llanfflewyn, Ynys Món, yn fab i Owen ap Hugh ap Richard.[1] Pan yn ifanc, hyd at 1622, bu'n gweithio fel goruchwyliwr ar ystad Bodeon, Llangadwaladr, Ynys Món, a rhwng 1614 a 1618 cymerodd ran bwysig fel capten cartreflu cwmwd Talybolion gydag achosion milwrol ar yr ynys. Priododd ferch i Thomas Bulkeley o'r Groesfechan ger Amlwch, sef Elisabeth, a bu iddynt ddau fab a saith o ferched.

Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Er nad yw'n sicr a gafodd addysg prifysgol, datblygodd i fod yn berson hyddysg yn y gyfraith ac mewn mwy nag un iaith dramor ('yr hyn ni ddyscodd gan nebyn Athro arall ond efe ei hun gartref yn ei studi ei hunan'). Yn ystod y cyfnod hwn dewisodd grefydd Eglwys Rhufain, ac yn 1622 cafodd swydd fel ysgrifennydd yn Worcester House gyda'r arglwydd Herbert yn Llundain. Cadwodd y swydd hon tan tua chanol 1640 pan symudodd ei gyflogwr o Lundain i gastell Rhaglan pan yr etifeddodd hwnnw iarllaeth Worcester. Ar ól hynny mae'n ymddangos ei fod wedi penderfynnu ymddeol yn ardal Abaty Tyndyrn.

Marw[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw ym mhlwyf Chapel Hill yng ngwanwyn 1642.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

J. H. Davies yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1897-8, 13-15;
W. Llewelyn Williams , ibid., 1901-2, 136-44;
Y Cymmrodor, xvi, 176-7;
Journal of the Welsh Bibliographical Society, I, ii, 59-62;
T. Llechid Jones, ibid., III, iv, 145-51; III, v, 204-19;
A. O. Evans, ibid., IV, i, 15-6;
E. G. Jones yn Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn, 1938, 42-9;