Horace Lyne

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Horace Lyne
Ganwyd 31 Rhagfyr 1860 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Bu farw 1 Mai 1949 Edit this on Wikidata (88 oed)
Casnewydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth chwaraewr rygbi'r undeb, swyddog gêm rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Gwobr/au MBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/au Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Casnewydd Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeon Cymru Edit this on Wikidata

Chwaraewr rygbi Cymreig a anwyd yng Nghasnewydd oedd Horace Sampson Lyne (31 Rhagfyr 1860 - 1 Mai 1949). Roedd yn aelod o Glwb Rygbi Casnewydd.

Roedd lyne yn fab i Charles Lyne, maer Casnewydd yn 1856 ac eilwaith yn 1884. Addysgwyd ef yn Plymouth a'r Royal Naval College cyn gweithio fel cyfreithiwr. Bu farw 1 Mai 1949 yng Nghasnewydd.

Rygbi[golygu | golygu cod y dudalen]

Chwaraeodd fel cefnwr i Glwb Rygbi Casnewydd pan oedd yn 18 oed, ac yna fel blaenwr; daeth yn gapten y clwb rhwng 1883 a 84, ac enillodd 6 chap dros Gymru rhwng 1883 a 1885.

Fel cynrychiolydd y gêm yng Nghymru, bu'n un o sylfaenwyr y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn 1886-87. Bu'n Llywydd Undeb Rygbi Cymru am gyfnod hirach na neb. Ef a Walter E. Rees a roddodd drefn ar faterion rygbi yng Nghymru yn hanner cyntaf yr 20g.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Urddwyd ef â rhyddfraint y dref yn 1934 a phenodwyd ef yn ganghellor Esgobaeth Mynwy yn 1938. Bu hefyd yn aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]