Neanderthal

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Homo neanderthalensis)
Jump to navigation Jump to search
Neanderthal
Amrediad amseryddol: Pleistocene Canol–Pleistocene Hwyr 0.25–0.028 Miliwn o fl. CP
Penglog Neanderthal yn La Chapelle-aux-Saints
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primates
Teulu: Hominidae
Genws: Homo
Rhywogaeth: H. neanderthalensis
Enw deuenwol
Homo neanderthalensis
William King, 1864
Ardal lle gwelwyd Homo neanderthalensis.
Cyfystyron

Homo mousteriensisHomo sapiens neanderthalensis
Palaeoanthropus neanderthalensis[1]

Roedd y Neanderthal (neu'r Homo neanderthalensis neu Homo sapiens neanderthalensis) yn rhywogaeth o'r genws Homo neanderthalensis a oedd yn byw yn Ewrop a rhannau o orllewin Asia.[2] Ymddangosodd yr olion proto-Neanderthalaidd cyntaf yn Ewrop mor gynnar â 430,000 o flynyddoedd yn ôl. Ceir tystiolaeth eu bont yn defnyddio tân 300,000 cyn y presennol (CP), fel ag yr oedd y rhywogaethau eraill a oedd yn byw yr adeg honno: homo erectus a chyndadau Homo sapiens.[3] Erbyn 130,000 o flynyddoedd yn ôl roedd nodweddion Neanderthalaidd cyflawn wedi ymddangos. Daeth y rhywogaeth i ben rhwng 41,000 a 39,000 o flynyddoedd yn ôl.

Maent wedi gadael llawer ar eu hôl gan gynnwys esgyrn ac offer llaw a'u DNA.

Mae ymchwil genetig a wnaethpwyd yn 2010 yn awgrymu fod bodau dynol a'r Neanderthal yn rhyng-bridio rhwng 80,000 a 50,000 o flynyddoedd yn ôl yn y Dwyrain Canol. O ganlyniad mae gan fodau dynol Ewrasiaidd rhwng 1% a 4% mwy o DNA Neanderthalaidd nag Affricanwyr Is-Sahara.[4] Roedd y Neanderthal yn perthyn yn agos i fodau dynol modern, gyda gwahaniaeth yn eu DNA o ddim ond 0.12%. Ond nid oeddent yn cydweithio gyda'i gilydd cymaint a Homo Erectus oherwydd eu diffyg datblygiad iaith, nid oeddent mor gymdeithasol, ac nid oeddent mor flaenllaw eu technoleg. Y ffactorau hyn, mae'n debyg, sy'n egluro pam y bu i'r Neanderthal ddifodi ac i Homo Erectus barhau.

Siart 'Stringer' o esblygiad sawl rhywogaeth o'r genws Homo dros ddwy filiwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Mae'r cysyniad "Allan o Affrica" i'w weld ar frig y siart.

Yn y 2010au, mewn ogof ym Mynyddoedd Altai, cafwyd hyd i DNA o fewn asgwrn un o'i thrigolion, merch 13 oed, a drigai yno tua 50,000 o flynyddoedd cyn y presennol CyP. Hyd at 40,000 CP roedd y Neanderthal i'w weld drwy orllewin Ewrop a'r Denisovan drwy ddwyrain Ewrop, ond mewn rhai llefydd roeddent yn cyd-fyw. Profodd y DNA fod y tad yn Denisovan a'r fam yn Neanderthal.[5] Oherwydd y dystiolaeth hon, mae'r hyn y gredwyd cyn 2010 - y Theori Amnewid (Replacement Theory) - bellach yn farw.

Llun gan arlunydd cyfrifiadurol.

Yng Nghymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Ogof Bontnewydd

Mae Ogof Bontnewydd yng nghymuned Cefnmeiriadog yn Sir Ddinbych yn adnabyddus fel y man lle darganfuwyd y gweddillion cynharaf o fodau dynol ar ddaear Cymru gyda un dant yn mynd nôl tua 225,000 o flynyddoedd. Dim ond un man arall drwy wledydd Prydain sydd ag olion dyn mor gynnar a hyn, sef Eartham (Sussex).[6][7] Mae'r olion a ganfuwyd yn Ogof Bontnewydd yn perthyn i Hen Oes y Cerrig (neu Paleolithig). Cafwyd hyd i 19 dant yn perthyn i blant ieuanc ac oedolion: un bachgen 8 a hanner oed, un ferch 9 oed bachgen 11 oed, bachgen arall 11-16 oed ac oedolyn. Gellir dehongli'r gweddillion mewn modd wahanol ac fel uchafswm mae'n bosibl fod y niferoedd cymaint a 9 plentyn a 7 oedolyn. Dyma'r fan mwyaf gogleddol, drwy Ewrop, y cafwyd hyd i olion Neanderthaliaid.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Bibliography of Fossil Vertebrates 1954-1958 - C.L. Camp, H.J. Allison, and R.H. Nichols - Google Books. Books.google.ca. Adalwyd 2014-05-24.
  2. Hublin, J. J. (2009). "The origin of Neandertals". Proceedings of the National Academy of Sciences 106 (38): 16022–7. Bibcode 2009PNAS..10616022H. doi:10.1073/pnas.0904119106. JSTOR 40485013. PMC 2752594. PMID 19805257. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2752594.
  3. Sapiens: A Brief History of Humankind gan Yuval Noah Harari; Penguin (2011); t. 13.
  4. http://news.bbc.co.uk/2/hi/science/nature/8660940.stm A Draft Sequence of the Neandertal Genome
  5. Gwefan y BBC; adalwyd 23 Awst 2018.
  6. The Archaeology of Clwyd, Cyngor Sir Clwyd 1991 tudalen 32
  7. Hanes Cymru gan John Davies, Cyhoeddwr: Penguin, 1990, ISBN 0-14-012570-1; tudalen 3